Ffyniant Cymru: Asiantaeth Datblygu Economaidd ar gyfer yr 21ain Ganrif

Byddwn ni’n sefydlu Ffyniant Cymru, asiantaeth ddatblygu hyd-braich genedlaethol, i ddarparu gwaith gweithredu polisi llwyddiannus, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Datblygu sail gryfach o gwmnïau maint canolig rhwng 50 a 250 o bobl.
  • Datblygiad ar sail lle a’r economi sylfaenol.
  • Cydweithio rhwng prifysgolion a busnesau, yn enwedig mewn perthynas â strategaethau arloesi.
  • Datgarboneiddio a’r chwyldro diwydiannol gwyrdd.
  • Cyllideb gaffael £6.3 biliwn sector cyhoeddus Cymru.
  • Mewnfuddsoddiad wedi’i dargedu, gan ddenu buddsoddiad i Gymru yn benodol gan fusnesau symudol byd-eang ym maes ymchwil a datblygu a busnesau cymharol newydd.
  • Allforion gweithgynhyrchu, gan fodelu ein hunain ar genhedloedd bach sy’n allforwyr sylweddol fel Iwerddon, Denmarc, a’r Ffindir.
  • Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng cymunedau ac ymhlith grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.
  • Hyfforddiant rheoli i staff busnesau bach a chanolig, a hyfforddiant technegol ar gyfer y gweithlu ehangach.

Bydd Ffyniant Cymru yn cydweithio’n agos gydag Asiantaeth Arfor ar gyfer arfordir y gorllewin, a Cymoedd, sef Awdurdod Datblygu’r Cymoedd. Bydd wedi’i adeiladu ar sylfaen Banc Datblygu Cymru sydd eisoes â thua 200 o staff yn gweithio o swyddfeydd pwrpasol yng Nghaerdydd, Llanelli, a Wrecsam. Bydd y ddau’n cael eu cyfuno yn un sefydliad, gydag un Bwrdd, ond gan gadw hunaniaeth a gweithrediad y Banc Datblygu fel prif fraich ariannol y sefydliad.

Economi: darllen mwy