Tâl Teg, Chwarae Teg

Prif nod ein polisi economaidd yw codi safonau byw drwy greu swyddi o ansawdd uchel â chyflogau teg ym mhob rhan o Gymru. Byddwn ni’n creu 60,000 o swyddi newydd dros gyfnod y Senedd, gan gynnwys:

  • Swyddi newydd â chyflogau da yn yr economi sylfaenol, gan ehangu cyflogaeth mewn swyddi’n ymwneud â phobl, sy’n llai agored i gael eu hawtomeiddio, yn enwedig ym maes gofal, addysgu a’r celfyddydau.
  • Miloedd o swyddi newydd drwy Fargen Werdd Cymru ym maes adeiladu, peirianneg, ynni, bwyd, yr amgylchedd adeiledig a natur.

Byddwn ni’n gyrru lefelau anweithgarwch economaidd yng Nghymru am i lawr, drwy wneud y canlynol:

  • Cyflwyno ein Cynllun Gwarant Swydd Ieuenctid.
  • Ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn dwy oed.
  • Buddsoddi mewn strategaethau ataliol sy’n lleihau salwch.
  • Datblygu strategaeth, a chyflwyno cymhellion, i leihau allfudo ymhlith pobl ifanc, a denu’r rhai sydd wedi gadael i ddychwelyd.
  • Annog cyflogwyr i fabwysiadu arferion gweithio modern, a chroesawu gweithio o bell a gwasgaredig, sy’n allweddol er mwyn gwneud gwaith yn fwy hygyrch i fenywod, pobl anabl, a grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli’n hanesyddol yn y gweithlu.

Gan fod cyflogau’r sector cyhoeddus yn aml yn gosod y ‘cyflog gwaelodol’ mewn llawer o economïau lleol yng Nghymru, bydd codi lefelau cyflog y gweithwyr sy’n cael eu talu isaf yn dod yn rhan bwysig o symud oddi wrth economi gyflog-isel. Byddwn ni:

  • Yn codi isafswm cyflog gweithwyr gofal i £10 yr awr, ac yn cyflwyno cydraddoldeb cyflog rhwng iechyd a gofal.
  • Yn defnyddio ymrwymiadau Gwaith Teg ym maes caffael cyhoeddus ac yn gyfnewid am gymorth ariannol.

Ynghyd â chyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr, bydd ein Llywodraeth yn sefydlu cyrff partneriaethau cymdeithasol newydd ar sail sectorau ar draws yr economi, gan ganolbwyntio i ddechrau ar y sectorau cyflog-isel.

O ystyried y setliad datganoli presennol, mae’n debygol mai cyrff ymgynghorol fydd y rhain yn y lle cyntaf. Byddan nhw’n gweithio i gytuno ar y cyd ar nodau hirdymor ar gyfer sectorau yng Nghymru, ac yn gosod safonau gwaelodol ar gyfer cyflogau a thargedau ar gyfer twf cyflog.

Mae ein buddsoddiad yn sgiliau a gwybodaeth ein pobl, sy’n hollbwysig i’n ffyniant yn y dyfodol, yn hanfodol i’n gweledigaeth ar gyfer yr economi. Byddwn ni’n buddsoddi mewn rhaglenni hyfforddi sylweddol, gyda thargedau ar gyfer menywod a grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli’n hanesyddol yn y gweithlu, mewn meysydd allweddol lle mae angen sgiliau newydd arnon ni fel y maes adeiladu, amgylchedd, iechyd a gofal, a digidol.

Dros yr hirdymor, mae angen i ni baratoi am ddyfodol lle mae’n bosib y bydd gan waith rôl wahanol yn yr economi o ganlyniad i awtomeiddio a defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial a thechnolegau cysylltiedig. Byddwn ni’n ceisio’r pwerau sydd eu hangen i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol fel ffordd o sicrhau urddas economaidd i bawb, a byddwn ni’n cyflwyno cynllun peilot i Gymru ar gyfer Incwm Sylfaenol Cyffredinol.

Economi: darllen mwy