Bargen Werdd Cymru

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n cymryd camau ar unwaith i gynllunio a darparu rhaglen fuddsoddi gwerth £6 biliwn i gefnogi adferiad economaidd parhaus Cymru ar ôl argyfwng Covid-19. Bydd hyn yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol o £4 biliwn mewn seilwaith, a £2 biliwn o wariant ychwanegol ar yr economi sylfaenol.

Byddwn ni’n rhoi tasg i’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ar unwaith i weithio ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Banc Datblygu, partneriaid llywodraeth leol ac eraill, i droi adroddiad Cyflwr y Genedl sydd i’w gyhoeddi ym mis Mai yn rhaglen fanwl o brosiectau y gellir buddsoddi ynddynt a fydd yn gosod sylfeini ar gyfer Cymru wydn newydd.

Bydd cynlluniau buddsoddi’n cynnwys mesurau i wneud y canlynol:

  • Ymestyn a thrydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd.
  • Ôl-osod miloedd o gartrefi i’r safonau amgylcheddol uchaf.
  • Adeiladu miloedd o gartrefi cymdeithasol newydd i fynd i’r afael â’r angen am gartrefi.
  • Datblygu system fwyd ac amaeth gynaliadwy i Gymru.
  • Buddsoddi mewn ymchwil datgarboneiddio (er enghraifft, ar gyfer sectorau diwydiannol allweddol fel dur, a chryfder newydd Cymru ym maes ynni morol a hydrogen).
  • Tyfu perchnogaeth Cymru ar y sector adnewyddadwy.
  • Adeiladu’r cyfleusterau i alluogi Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes gwynt ar y môr.
  • Ail-bwrpasu siopau a swyddfeydd gwag.
  • Darparu cysylltiad Gigabit ledled Cymru.
  • Sicrhau bod swyddi a buddsoddiadau newydd o fudd i’r grwpiau a’r llefydd sy’n wynebu rhwystrau strwythurol rhag gweithio ac sydd wedi’u tangynrychioli yn y gweithle, fel rhan o’r agenda Cenedl Gyfartal.

Ariannu Bargen Werdd Cymru

Ni all y setliad datganoli presennol ymdopi ag economeg Covid-19 nac effaith barhaus Brexit. Mae angen ehangu grymoedd economaidd Cymru, ac yn enwedig cynyddu capasiti Llywodraeth Cymru i fenthyg er mwyn buddsoddi ar y ffordd i adferiad. Yn y tymor byr, mae’n rhaid rhoi mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru ymdrin â’r argyfwng presennol. Dylai hyn gynnwys:

  • Tynnu’r cyfyngiad benthyg blynyddol o £150 miliwn.
  • Tynnu’r cyfyngiad blynyddol ar dynnu arian i lawr o gronfa wrth gefn Cymru.
  • Cynyddu capasiti benthyg cyffredinol Llywodraeth Cymru o £1 biliwn i £5 biliwn dros bum mlynedd, gyda rhan helaeth o hynny yn y dechrau, er mwyn mynd i’r afael ar unwaith ag effaith economaidd Covid-19 a Brexit. Amcangyfrifir y byddai taliadau llog yn £120 miliwn y flwyddyn, a fyddai’n dod o gyllideb Llywodraeth Cymru.

Serch hynny, os bydd San Steffan yn gwrthod rhoi’r capasiti benthyg uwch sydd ei angen arnon ni, byddwn ni’n gweithredu cynllun amgen. Mae ein cynllun ariannu manwl amgen yn seiliedig ar yr elfennau canlynol:

  • Bargen Dwf Werdd genedlaethol ar y cyd ag awdurdodau lleol, a fydd yn adeiladu ar y Bargeinion Dinesig a Thwf sy’n bodoli eisoes.
  • Rhagor o ddefnydd o Gyfalaf Trafodion Ariannol, er enghraifft wrth ariannu prosiectau tai fel yr awgrymwyd gan Gyngor Sir Gâr a’r gymdeithas dai Tirion.
  • Defnydd priodol o’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, gan addasu ei ddefnydd i ardaloedd ychwanegol.
  • Buddsoddiad gan Fanc Seilwaith y Deyrnas Unedig a buddsoddwyr sefydliadol eraill fel Partneriaeth Pensiwn Cymru.
  • Archwilio posibiliadau Bond Gwyrdd Cymru fel y cynigiwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

Ochr yn ochr â’r rhaglen fuddsoddi hon, byddwn ni’n rhoi sylfaen statudol i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, gan ymestyn ei gwmpas i gynnwys seilwaith cymdeithasol a’i uno gyda Chomisiwn Dylunio Cymru, gan ei droi’n ‘ganolfan ragoriaeth’ ar gyfer dylunio a darparu seilwaith cyhoeddus.

Economi: darllen mwy