Gan Gymru, i Gymru: Economi Fwy Doeth

O’r holl economïau datblygedig, mae Cymru ymhlith yr isaf o ran perchnogaeth leol ar fusnesau, mae’n rhaid i hyn newid. Dro ar ôl tro, mae arian cyhoeddus yn cael ei wario i ddenu buddsoddiad newydd, ac yna mae’r buddsoddwr un ai’n allforio’r enillion neu’n cerdded i ffwrdd. Dyma hanes datblygu economaidd yng Nghymru ers dros hanner can mlynedd.

Yn hytrach, bydd ein cynlluniau ar gyfer economi fwy doeth yn seiliedig ar ehangu, cefnogi, a diogelu busnesau domestig.

Lleol yn Gyntaf

Byddwn ni’n mabwysiadu polisi Lleol yn Gyntaf newydd, wedi’i lunio ar sail perchnogaeth leol o’r economi, seilwaith a busnesau, a sylfaen sgiliau gynaliadwy ar gyfer gweithlu ac economi wedi’u hadfywio.

Fel rhan o hyn, byddwn ni’n creu model o gaffael cyhoeddus lleol, wedi’i seilio ar yr economi sylfaenol.

Gan ddefnyddio cyllideb gaffael £6.3 biliwn Llywodraeth Cymru ei hun, a thrwy weithio mewn partneriaeth agos â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, byddwn ni’n gosod targed o gynyddu lefel caffael y sector cyhoeddus o 52 y cant i 75 y cant o’r holl wariant. Amcangyfrifir y bydd hyn yn creu 46,000 o swyddi ychwanegol.

Byddwn ni:

  • Yn ceisio cytundeb brys ledled y sector cyhoeddus i ymestyn contractau gyda busnesau o Gymru mewn sectorau allweddol fel bwyd am o leiaf ddwy flynedd, i roi sicrwydd economaidd cynyddol yn ystod adferiad Covid.
  • Yn canfod ac yn cysylltu â chyflenwyr posib o Gymru ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau sy’n cael eu caffael y tu allan i Gymru ar hyn o bryd, i lenwi’r diffygion yn economi Cymru.
  • Yn defnyddio’r rhyddid newydd ar ôl Brexit i’w lawn botensial er mwyn blaenoriaethu busnesau Cymru mewn caffaeliadau cyhoeddus.
  • Yn pasio Deddf Caffael Cyhoeddus sy’n roi dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus i lynu at ganllawiau caffael cenedlaethol.
  • Yn cynyddu nifer y swyddi a gaiff eu creu drwy gynyddu lefel y cynnwys o Gymru a gaiff ei brynu gan gyflenwyr haen gyntaf ac ail haen yn y sector cyhoeddus.
  • Yn torri contractau i lawr, lle bo’n bosib, i’r lotiau lleiaf posib er mwyn galluogi cwmnïau bach i wneud cais amdanynt.
  • Yn tynnu’r fiwrocratiaeth o brosesau tendro’r sector cyhoeddus.
  • Yn ymrwymo i roi diwedd ar roi gwaith ar gontractau allanol yn y sector cyhoeddus a’i wrthdroi, gan ddychwelyd gweithgarwch yn fewnol neu o leiaf o dan reolaeth a darpariaeth leol.
  • Yn defnyddio caffael cymdeithasol i yrru amcanion eraill yn eu blaen, gan gynnwys cefnogi hunangyflogaeth a chyflogaeth ymhlith grwpiau wedi’u tangynrychioli fel menywod a phobl groenliw, twf busnesau cydweithredol a defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

Economi: darllen mwy