Cynnyrch Cymru

Yn y sector preifat a’r sector cydfuddiannol, byddwn ni’n gosod targedau i gynyddu’r gyfran o’n heconomi sydd dan berchnogaeth ddomestig yn sylweddol. Byddwn ni:

  • Yn blaenoriaethu busnesau lleol dros gorfforaethau sy’n allforio elw fel sylfaen i’n heconomi.
  • Yn datblygu strategaeth i gynyddu maint busnesau presennol sydd â photensial twf uchel.
  • Yn cyflwyno rhaglen olyniaeth busnesau a chymorth ariannol priodol i gadw busnesau llwyddiannus dan berchnogaeth yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar ehangu nifer y busnesau sydd dan berchnogaeth y gweithwyr.
  • Yn creu brand swyddogol ‘Gwnaed yng Nghymru’ a fydd yn cael ei roi ar gynnyrch neu wasanaeth lle mae 50 y cant o’i werth wedi’i greu yng Nghymru.
  • Yn lansio ymgyrchoedd prynwch gan Gymru a phrynwch yn lleol, er mwyn cynyddu’r lefelau defnydd yng Nghymru o nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu creu yng Nghymru.
  • Yn annog cynhyrchion amaethyddol arloesol a chynhyrchwyr bwyd lleol iach.
  • Yn datblygu systemau dosbarthu cyhoeddus, fel nad yw busnesau bach a chanolig yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad at y farchnad (lle mae wedi’i monopoleiddio gan archfarchnadoedd, manwerthwyr mawr, a llwyfannau ar-lein fel Amazon neu Uber) a’u bod yn gallu gwerthu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr.

Economi: darllen mwy