Nodau Economaidd: Ymagwedd Newydd

Mae economi Cymru’n methu â darparu elfennau sylfaenol o fywyd priodol i ormod o’n pobl. Mae’n rhaid i hynny newid.

Wrth galon ein polisi economaidd bydd sicrhau bywyd priodol i’n holl ddinasyddion a lleihau anghydraddoldeb. Mae’n rhaid i gynnydd economaidd fod yn gyfrwng ar gyfer cyflawni cyfiawnder cymdeithasol, lles unigol a gwydnwch amgylcheddol. Mae’r economi’n ymwneud â llawer mwy na chynhyrchu nwyddau ar gyfer y farchnad, mae’n ymwneud â phopeth sydd ei angen arnon ni i dyfu, i ffynnu, ac i lwyddo fel cymuned.

Mae rhaid newid sut rydyn ni’n mesur llwyddiant economaidd, gan ddefnyddio dau brif fesuriad:

  1. Cynnydd yn nifer y swyddi o ansawdd da, a dosbarthiad mwy teg o’r swyddi hynny.
  2. Gostyngiad yn yr anghydraddoldeb o ran incwm gwario net aelwydydd yng Nghymru o gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, ac o fewn Cymru, yn seiliedig ar le, rhywedd ac ethnigrwydd.

Wrth gymharu perfformiad Cymru’n rhyngwladol, byddwn ni’n defnyddio dangosydd mwy cynhwysfawr na chynnyrch mewnwladol crynswth – sef Mynegai o Les Economaidd Cynaliadwy neu ddangosydd cyfwerth a gaiff ei gydnabod yn rhyngwladol.

Economi: darllen mwy