Gwarant Swydd Ieuenctid Cymru

Yn wyneb diweithdra ar raddfa eang ymhlith pobl ifanc, byddwn ni’n gwarantu cyflogaeth ddiogel, ar Gyflog Byw Gwirioneddol o leiaf, i bob person ifanc rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn addysg amser llawn.

Byddwn ni’n creu Cynllun Cyflogaeth Cenedlaethol i gyflwyno’r swyddi sydd eu hangen arnon ni i gyflawni’r Gwarant Ieuenctid. Bydd yn canolbwyntio’n benodol ar ein cynlluniau ar gyfer cynyddu swyddi a llefydd hyfforddi ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, gofal plant ac addysg, adeiladu ac yn yr economi carbon isel.

Economi: darllen mwy