Marwolaethau mewn cartrefi gofal yn codi cwestiynau dwys ynglyn a gwir effaith y Coronafeirws
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod 11 o weithwyr Byrddau Iechyd wedi marw o Covid-19 – ond ni ydynt yn sicr faint o weithwyr nyrsio a gweithwyr cartrefi preswyl sydd wedi marw o ganlyniad i Covid-19 yng Nghymru.
Mae angen diwygiadau difrifol ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn syth
Mae Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, yn condemnio methiannau bwrdd iechyd sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru ar ôl pum mlynedd o fod mewn mesurau arbennig.
Plaid Cymru yn galw am strategaeth brofi ar gyfer staff ysgolion cyn iddynt ddychwelyd i’r gwaith
Mae’r Gweinidog Cysgodol dros Addysg, Siân Gwenllian AS, wedi galw am drefn brofi glir i ar gyfer staff sy’n gweithio mewn ysgolion i fod ar waith yn barod cyn i ysgolion yn ail-agor.
“Yr achos dros annibyniaeth i Gymru yn y brif ffrwd” - Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS
Mae’r achos dros annibyniaeth i Gymru bellach “yn y brif ffrwd” meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price ar ôl i arolwg barn newydd ddarganfod bod cefnogaeth i Gymru annibynnol ar 32%.
Cynlluniau i agor amgueddfa filwrol yn “sarhad” i’r gymuned leol meddai Plaid Cymru
Mae cynlluniau i adeiladu amgueddfa filwrol ym Mae Caerdydd wedi cael eu beirniadu, gyda Phlaid Cymru yn galw’r penderfyniad yn “sarhad” i’r hanes cyfoethog lleol, ac yn lle hynny, yn galw am amgueddfa sydd yn adlewyrchu amrywiaeth y bobl sy’n byw yno.
Gallai’r bil cwricwlwm newydd “danseilio” darpariaeth o’r Gymraeg
Mae Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian MS wedi annog Llywodraeth Cymru i ohirio cyhoeddi ei Bil Cwricwlwm drafft newydd yng nghanol pryderon y gallai danseilio cynlluniau trochi iaith Gymraeg awdurdodau lleol, a chael goblygiadau dinistriol ar y ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion.
Gwasanaeth cludo bwyd yn rhoi hwb i’r economi leol yn ystod argyfwng Covid-19
Mae busnesau ac entrepreneuriaid lleol wedi bod yn addasu ac yn arloesi er mwyn ymateb i’r argyfwng presennol, ac mae nifer o fentrau yn y diwydiant bwyd a diod, fel y gwasanaeth “Ymaichi” sydd wedi’i sefydlu yn Aberystwyth, wedi cael eu croesawu gan Blaid Cymru.