"Nid symud tuag yn ôl ar brofion yw’r ffordd i symud allan o’r cloi i lawr”
Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru na fydd “symud tuag yn ôl” ar brofi yn symud allan o’r cloi i lawr wedi i’r Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw gyhoeddi fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer symud allan o’r cloi i lawr.
‘Ffermwyr yn dioddef colledion ac amser yn mynd yn brin’, rhybuddia Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi mynnu cael cynllun cefnogi brys i helpu ffermwyr Cymru i oroesi effaith trychinebus pandemig covid-19, gan ddisgrifio ymateb Llywodraeth Cymru fel un arswydus o araf.
Dychweliad Tŷ’r Cyffredin yn gam yn y cyfeiriad iawn, ond dylai’r holl drafodaethau fod yn ddigidol
Mae Prif Chwip Plaid Cymru, Jonathan Edwards AS, wedi croesawu’r ffaith fod Tŷ’r Cyffredin yn dychwelyd, ond wedi lleisio pryderon fod perygl i’r fformat ‘hybrid’ fel y’i gelwir roi’r ASau hynny nad ydynt yn byw yn agos i Lundain dan anfantais ddybryd.
Rhowch ddinasyddiaeth i’r sawl sy’n brwydro yn erbyn coronafeirws ar y rheng flaen
Mae AS Plaid Cymru Hywel Williams wedi galw am i bawb nad ydynt yn Brydeinwyr sy’n gweithio ar y rheng flaen yn yr argyfwng Coronafeirws gael dinasyddiaeth os ydynt wedi gwneud cais amdano.
Mae Plaid Cymru wedi galw am godiadau cyflog i holl staff y GIG a staff gofal cymdeithasol fel cydnabyddiaeth o’u gwaith yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.
Pryderon Covid-19 wrth i farwolaethau yng nghartrefi gofal Cymru i oedolion ddyblu ym mis Ebrill
Dengys ffigyrau a gafwyd gan Blaid Cymru fod marwolaethau mewn cartrefi gofal i oedolion yng Nghymru wedi mwy na dyblu ym mis Ebrill o gymharu â’r cyfnod cyfatebol llynedd.
Condemnio Llywodraeth Cymru am system brofi "gymhleth a di-drefn" wrth fethu â chyrraedd y targed o 5,000
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu system “gymhleth a di-drefn” Llywodraeth Cymru o brofi am Covid-19 wrth i’r targed o gynnal 5,000 prawf y dydd erbyn yfory gael ei fethu.
Plaid Cymru yn galw am fwy o gefnogaeth economaidd i amaethyddiaeth Cymru
Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys a’r Amgylchedd a Materion Gwledig, Ben Lake AS, wedi galw am “becyn unswydd o gefnogaeth economaidd” i amaethyddiaeth, wrth i fesurau cloi i lawr olygu y gallai ffermwyr Cymru golli blwyddyn gyfan o incwm.