Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts AS wedi dweud fod cynigion y gallai Llywodraeth y DG ddefnyddio Mesur y Farchnad Fewnol i geisio tanseilio Cytundeb Ymadael yr UE “mor wirion ag y mae’n beryglus”.

Daeth sylw Ms Saville Roberts yn dilyn adroddiad fod Llywodraeth y DG yn bwriadu defnyddio deddfwriaeth i wneud i ffwrdd ag ymrwymiadau cyfreithiol a wnaed yn y Cytundeb Ymadael sy’n ymwneud ag ardaloedd gan gynnwys y ffin â Gogledd Iwerddon a chymorth y wladwriaeth.

Disgwylir y caiff Mesur y Farchnad Fewnol ei gyhoeddi yn nes ymlaen yr wythnos hon a bydd yn diffinio sut y bydd masnach yn gweithredu wedi Brexit rhwng pedair cenedl y DG.

Beirniadwyd cynigion y ddeddfwriaeth eisoes ynghylch pryderon ei fod yn tanseilio diwyd degawd o ddatganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Dyw torri cyfraith ryngwladol fyth yn syniad da; mae gwneud hynny yng nghanol pandemig mor wirion ag y mae’n beryglus. Ar adeg pan fo angen i’r byd weithio ynghyd, mae Llywodraeth DG yn mynd ati i wneud y peth hollol wahanol.

“Byddai Mesur y Farchnad Fewnol eisoes yn debyg o ddatod gwaith sawl refferendwm ar ddatganoli, ond mae’n edrych bellach y bydd am osod y DG ar y llwybr i fod yn esgymun ar lwyfan y byd.

“Mae ymddwyn fel gwladwriaeth droseddol yn tanseilio nid yn unig y trafodaethau gyda’r UE ond hyder yn y DG ym mhob trafodaeth ryngwladol yn y dyfodol.

“Mae llanast y ffordd y triniodd San Steffan y pandemig wedi dangos eisoes sut y gallwn ni yng Nghymru wneud yn well drosom ein hunain. Mae’r sgandal diweddaraf hwn yn ei gwneud yn amlycach fyth nad yw San Steffan yn gweithio dros Gymru, ac na wnaiff hynny fyth.”