Mae Plaid Cymru wedi disgrifio Mesur y Farchnad Fewnol Llywodraeth San Steffan fel “ymgais i gipio grym” yn dilyn cyhoeddi papur Gwyn ar y ddeddfwriaeth.

Byddai’r Mesur, a gyhoeddwyd yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, yn gweld San Steffan yn cymryd rheolaeth dros nifer o feysydd polisi lle gallai newidiadau ddigwydd o ganlyniad i Brexit.

Dan ddeddfwriaeth bresennol, mae meysydd megis cymorth gwladwriaethol wedi eu datganoli i Gymru, ond yn dilyn cyfnod trosiannol Brexit, dywedodd Llywodraeth San Steffan y buasent am gymryd rheolaeth dros y maes polisi hwn, ymhlith eraill.

Byddai’r cynigion mewn gwirionedd yn gweld materion megis safonau bwyd yng Nghymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill yn cael eu penderfynu gan San Steffan o ganlyniad i gytundebau masnach yn y dyfodol. Byddai hyn yn golygu, er enghraifft, na fyddai gan Gymru unrhyw allu i atal gwerthu cyw iâr wedi’i glorineiddio o UDA petai’r Llywodraeth yn San Steffan yn cytuno i hyn.

Yn ystod datganiad ar y ddeddfwriaeth yn Nhŷ’r Cyffredin, gofynnodd Hywel Williams AS Plaid Cymru:

“Dri deg a phump o flynyddoedd yn ôl ym 1985, yr oedd Papur Gwyn y Comisiwn Ewropeaidd Torïaidd bryd hynny yn rhoi manylion am 300 o gynigion deddfwriaethol i gwblhau’r Farchnad Sengl Ewropeaidd, gyda therfyn amser o saith mlynedd.

“Ar ‘Farchnad Fewnol y DG’, mae’r llywodraeth Dorïaidd hon yn rhoi cyfnod o bedair wythnos o ymgynghori dros yr haf.

“Tystiolaeth bendant, petai ei angen, mai pennawd cyfleus yw marchnad fewnol y DG yn anad dim – cragen heb na manylion na sail gyfreithiol.

A wnaiff dderbyn mai’r unig sicrwydd yw bod y Mesur hwn yn ymgais i gipio grym a chadw, ie, cadw pwerau helaeth dros faterion datganoledig yn nwylo gweinidogion Torïaidd?”

Yn dilyn y datganiad, dywedodd Hywel Williams:

“Rydym wedi rhybuddio ers tro byd fod Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn barod i gipio pwerau yn ôl, ac y mae’r Mesur hwn yn gam pellach ar y llwybr hwnnw. Mae dau refferendwm a dwy ddegawd o ddatganoli yn cael eu tanseilio.

“Does neb eisiau difetha masnach yn y DG, felly yr unig gasgliad y gellir dod iddo yw bod Llywodraeth San Steffan naill ai yn baranoid neu yn syml nad ydynt am roi i Gymru y grym mae arni ei angen i sefyll ar ei thraed ei hunan.

“Pedair wythnos o ymgynghori, dim proses i gytuno sut y bydd hyn yn gweithio, ac y mae gallu San Steffan i dra-arglwyddiaethu dros Gymru yn ei gwneud yn amlwg nad yw’r ceidwadwyr eisiau gweithio ar y cyd gyda’n cenedl, dim ond ei rheoli. ”