Cymru greadigol lle mae lles o bwys

Diwylliant yw anadl einioes Cymru. Mae celf a cherddoriaeth, ein hiaith, treftadaeth a’n traddodiadau chwaraeon yn sylfaen i’r hyn ydym fel cenedl.

Mae ar Gymru angen llywodraeth sydd yn rhoi gwir werth ar ddiwylliant a’r diwydiannau creadigol ac yn deall eu rôl yn datgloi mwy o’n potensial economaidd, cynnal cymunedau bywiog ac unedig, a hyrwyddo lles ein pobl.

Yn y celfyddydau, y cyfryngau a chwaraeon, mae Cymru yn genedl fechan sydd ers amser maith wedi cyfrannu llawer mwy na’i maint ar y llwyfan byd-eang. Gyda gweledigaeth newydd ac arweiniad cryf i ddiwylliant Cymru, byddwn yn cryfhau statws ein cenedl fel pwerdy diwylliannol.

Mae manteision y celfyddydau, treftadaeth a chwaraeon o ran iechyd a lles yn hysbys ers amser. Rydym eisiau i bobl o bob oed a gallu i gael gwell cyfleoedd a mwy ohonynt i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, celfyddydau cymunedol, theatr a cherddoriaeth.

Ac fe fyddwn yn gwarchod ac yn cryfhau’r iaith Gymraeg ym mhob rhan o Gymru – trwy ein system addysg ac yn ein cymunedau.

Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:

Diwylliant

  • Lansio ymgynghoriad ar ein blaenoriaethau i greu Strategaeth Diwylliannol newydd, gan gynnwys ymwneud yn ffurfiol â phartneriaid yn y celfyddydau, chwaraeon, diwylliant a’r diwydiannau creadigol.
  • Comisiynu adolygiad o’r cyfleoedd i fuddsoddi mewn diwylliant, yn y celfyddydau a chwaraeon, fel sail o wybodaeth i gynnydd cynyddol mewn gwariant ar y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, fydd ynghlwm â symud yn ehangach at weithgaredd iechyd a lles ataliol ar draws adrannau’r llywodraeth
  • Sefydlu Fforwm Creadigol a Diwylliannol traws-sector gyda chylch gorchwyl cychwynnol o gasglu tystiolaeth a nodi camau i sicrhau tâl teg a gwell amodau gwaith yn y sector
  • Cyhoeddi cynlluniau ac amserlen i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru, i warchod a chryfhau llwyfannau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yng Nghymru

Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol Gydol Oes

  • Sefydlu ffrwd waith unswydd mewn llywodraeth i nodi cyfleoedd ar gyfer lefelau uwch o ymwneud a chwaraeon a gweithgaredd corfforol, ac ymgynghori ar sut i gryfhau gweithio mewn partneriaeth rhwng y gwasanaethau iechyd a mudiadau chwaraeon
  • Comisiynu archwiliad o gyfleusterau chwaraeon cymunedol a rhanbarthol ac ymwneud â phartneriaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraethol cenedlaethol, i fod yn sail o wybodaeth i fuddsoddi wedi ei dargedu dros dymor y llywodraeth
  • Cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer rhaglen newydd o Nofio a Diogelwch Dŵr mewn ysgolion

Yr Iaith Gymraeg: Blynyddoedd cynnar ac addysg

  • Gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Mudiad Meithrin, y grŵp arbenigol ar ofal plant a thasglu gofal plant, i nodi cyfleoedd i ehangu gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru, fel rhan allweddol o gyflwyno ein cynnig gofal plant cyffredinol
  • Cynnal adolygiad cyflym o Gynlluniau Strategol y Gymraeg Mewn Addysg a Chynlluniau Cyflawni’r Gymraeg Mewn Addysg fel sail o wybodaeth i dargedu lleol er mwyn sicrhau twf cyson addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob ysgol, gan symud ysgolion ymlaen ar hyd y continwwm iaith. Fe fyddwn hefyd yn cymryd camau ar unwaith i wella mynediad at addysg Gymraeg, gan gychwyn gydag adolygiad o’r Mesur Teithio i Ddysgwyr, ac yn comisiynu asesiad o ddarpariaeth ADY mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a fydd yn cynnwys strwythur y gefnogaeth bresennol a’r hyfforddiant i athrawon a staff cefnogi mewn ysgolion
  • Gweithio gyda darparwyr addysg drydyddol i gynyddu’r gyfran o gyllid a roddir i addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg, gan roi sylw arbennig i brentisiaethau

Cryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol

  • Cychwyn ar y broses o ddeddfu ar gamau gwarchod newydd i ardaloedd o ddwysedd ieithyddol uchel, yn ôl argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gan weithio gydag awdurdodau lleol i bennu sut a lle y dylid dynodi’r ardaloedd hyn. Byddwn hefyd yn ymgysylltu gyda gwaith y Comisiwn ar ardaloedd gyda dwyseddau canolig ac is o siaradwyr Cymraeg

Safonau’r Iaith Gymraeg

  • Dechrau gwaith i ymestyn Safonau’r Iaith Gymraeg i gyrff Llywodraeth y DG a gwasanaethau sy’n gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys cyfathrebu, cyfleustodau, banciau, meysydd parcio ac archfarchnadoedd