Perthynas newydd â San Steffan
Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu perthynas newydd rhwng San Steffan a Chymru.
Ers yn rhy hir o lawer mae Llywodraethau’r DG – Llafur a’r Ceidwadwyr fel ei gilydd – wedi trin Cymru fel cenedl eilradd. Bydd Plaid Cymru yn defnyddio ein mandad i sicrhau y clywir llais Cymru ac y gwarchodir ein buddiannau cenedlaethol.
Fel cam cyntaf, fe wnawn barhau i wneud yr achos dros ddatganoli mwy o bwerau i’r Senedd fel bod Cymru yn gydradd â’r Alban.
Y ffordd i drosglwyddo pwerau fel hyn yw trwy Fil Cymru newydd, ac yr ydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DG er mwyn gofalu bod y ddeddfwriaeth hon yn addas i bwrpas ac y caiff ei gweithredu cyn gynted a phosib.
Er mwyn mynd i’r afael â thangyllido hanesyddol Cymru o ganlyniad i Fformiwla annheg Barnett, fe fyddwn yn gwneud cais am drafodaethau brys gyda Llywodraeth y DG i ddyfeisio a gweithredu fformiwla newydd sy’n cyllido ein cenedl yn ôl ei hanghenion gwirioneddol, nid ar sail ein cyfran o’r boblogaeth.
Gyda mwy a mwy o bobl yn cael eu perswadio mai pobl Cymru, nid San Steffan, ddylai benderfynu ar ddyfodol Cymru, byddwn yn cychwyn ar y gwaith o sefydlu Comisiwn Cenedlaethol sefydlog i sbarduno sgwrs genedlaethol am y camau nesaf ar ein taith gyfansoddiadol.
Yn unol a’r argymhelliad a wnaed gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ym mis Mawrth 2024, byddwn yn dwyn pwysau ar Lywodraeth y DG i basio deddfwriaeth i roi cysylltiadau rhynglywodraethol a Chonfensiwn Sewel ar seiliau cadarnach.