Tuag at Gymru fwy cyfiawn

Parch. Cydsafiad. Chwarae teg. Mae’r gwerthoedd hyn wastad wedi bod o bwys i bobl yng Nghymru.

Dyma’r egwyddorion fydd yn llywio’n llywodraeth – gan lunio sut yr ydym yn lleihau tlodi, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac adeiladu cymunedau tecach, mwy diogel ac unedig.

Bydd gweithredu ymarferol i daclo anghyfiawnder tlodi plant a rhoi cychwyn teg i bob plentyn mewn bywyd yn brif flaenoriaeth i lywodraeth Plaid Cymru.

Fe wnawn yn siŵr fod croeso i bawb ac y gallent chwarae eu rhan yn ein cymuned o gymunedau – fel na fydd neb yn wynebu camwahaniaethu na’i drin yn annheg.

Ac fe wnawn frwydro am y pwerau mae arnom eu hangen i adeiladu system gyfiawnder sy’n gweithio i Gymru.

Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:

Gwarchod hawliau dynol yng Nghymru

  • Dwyn gerbron gynigion i ymgorffori confensiynau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, gan adeiladu ar gamau gwarchod hawliau sy’n bodoli eisoes a gwreiddion safonau rhyngwladol wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus datganoledig

Rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

  • Gweithio i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ar draws pob maes o lywodraeth, trwy agwedd ataliol ar draws y system gyfan
  • Gwarchod cyllid i wasanaethau VAWDASV arbenigol, fydd yn canolbwyntio ar y goroeswyr, ac eithrio llochesi o’r Ddeddf Rhentu Cartrefi ar unwaith er mwyn sicrhau mynediad at lety diogel i oroeswyr

Asiantaeth Atal Trosedd Genedlaethol i Gymru

  • Cyflwyno cynlluniau ar gyfer Asiantaeth Atal Trosedd Genedlaethol i Gymru i gydgordio atal troseddau a dargyfeirio ar draws heddluoedd, y Gwasanaeth Iechyd, awdurdodau lleol, ysgolion, a phartneriaid o’r trydydd sector

Datblygu System Les Gymreig

  • Pwyso ar Lywodraeth y DG i ddatganoli pwerau lles i Gymru, fel yn yr Alban, fel y gallwn adeiladu system nawdd cymdeithasol yng Nghymru, i Gymru
  • Adolygu cynlluniau budd-daliadau Cymreig presennol a chynlluniau cysylltiedig fel y Gronfa Cymorth Dewisol (CCD), er mwyn cael yr effaith fwyaf a gwarantu gwerth am arian
  • Dechrau ar y gwaith o ymgorffori Cynnal fel budd-dal Cymreig newydd