Rhagair

Ym mis Mai, bydd Cymru yn wynebu’r etholiad mwyaf arwyddocaol yn ei hanes.

Mae bron i saith mlynedd ar hugain o reolaeth dan arweiniad Llafur wedi golygu bod ein cenedl ar ei cholled. Gwasanaeth Iechyd wedi’i lethu gan y galw, safonau addysgol ymhlith y gwaethaf yn Ewrop, ac economi sy’n parhau i fod ormod ynghlwm wrth San Steffan i feddu ar unrhyw rym gwirioneddol.

Efallai y bydd eraill yn addo newid, ond fel y mae’r prosbectws hwn yn profi, Plaid Cymru yw’r unig blaid gyda chynllun gweithredu manwl, sydd yn cynrychioli’r arweiniad o’r newydd y mae pobl Cymru’n ei haeddu.

Nid ydym yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol, ond mae’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau mor niferus a chymhleth fel mai anghyfrifol fyddai peidio egluro sut y byddai gweinyddiaeth Plaid Cymru yn dechrau mynd i’r afael â hwy.

Fel Prif Weinidog, addewid syml fyddai gen i i bobl Cymru – sef arwain tîm sy’n gweithio’n galed bob dydd i wneud eich bywyd yn well.

Llywodraeth sydd o ddifri am daclo gwarth cenedlaethol tlodi plant, fydd yn ddiflino wrth weithio i leihau rhestrau aros, wedi ymrwymo i godi safonau addysg ac sydd yn angerddol dros wneud Cymru yn well lle i gynnal busnes, gan greu swyddi â sgiliau uchel sy’n talu’n dda.

Gyda diwygio’r Senedd, fe ddaw disgwyliadau o’r newydd y bydd llywodraeth yfory yn fwy medrus, yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy unedig ei phenderfyniad, ei phwrpas a’i gweledigaeth nag unrhyw un a aeth o’i blaen.

Bron i ddeng mlynedd ar hugain ers i ddinasyddion Cymru ddweud Ie i’w Senedd eu hunain, fy ngobaith yw y bydd gweledigaeth Plaid Cymru, a’n cynllun i weithredu’r weledigaeth honno – gyda’r cynllun 100 Diwrnod Cyntaf hwn yn elfen allweddol ohoni – yn ysbrydoli pleidleiswyr heddiw i roi eu ffydd ynom i arwain llywodraeth nesaf Cymru.

Mae San Steffan wedi anwybyddu llais Cymru yn rhy hir. Gyda Phlaid Cymru wrth y llyw, bydd Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol yn dysgu o’r diwedd beth yw llywodraeth gref, effeithiol a thosturiol, wrth i’r hen drefn gael ei disodli gan arweinyddiaeth newydd, egni newydd a syniadau newydd.

Rhun ap Iorwerth signature