Gwell llywodraeth

Mae ein haddewid i bobl Cymru yn syml – arwain Llywodraeth Cymru sy’n gweithio’n galed bob dydd i wneud eu bywydau’n well, a gwneud hynny gydag egwyddorion a phwrpas.

Byddwn yn adeiladu cenedl fodern a mwy hyderus, lle gall pawb sy’n byw yng Nghymru gyfrannu at ein llwyddiant oll. Yn sail i’n rhaglen y mae argyhoeddiad fod yn rhaid i’n llywodraeth fod yn well llywodraeth. Dyna’r peth lleiaf y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

Mae pobl yng Nghymru wedi colli mwy a mwy o ffydd mewn llywodraethau - maent yn cael eu gweld fel rhywbeth pell sydd ddim yn adlewyrchu eu blaenoriaethu, yn dweud yn hytrach na gwrando, yn siarad heb wneud.

Byddwn yn mabwysiadu agwedd newydd fel llywodraeth – dwyn ein gwasanaethau cyhoeddus ynghyd fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymreig a gosod gwerthoedd craidd fydd yn gyrru ein holl waith.

Bydd ein Llywodraeth a’n gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach yn:

  • Canolbwyntio ar Bobl. Byddwn yn canolbwyntio ein gwaith ar effaith ein polisïau, deddfwriaeth a’n gweithredoedd ar bobl. Byddwn yn holi’r cwestiynau anodd ac yn gwneud yn siŵr, o ran popeth a wnawn, y gallwn ateb y cwestiwn - pa effaith gaiff ein gwaith ar fywydau pobl yng Nghymru?
  • Agored a Thryloyw. Byddwn yn cymryd agwedd agored a thryloyw at ein gwaith mewn llywodraeth, gan rannu gwybodaeth a mewnwelediad, ac amlygu cyfleoedd a heriau – er mwyn adeiladu hyder newydd yn ein democratiaeth Gymreig
  • Cydweithiol a Chydweithredol. Byddwn yn ceisio dod a phobl at ei gilydd mewn llywodraeth, ar draws y sector cyhoeddus a thu hwnt – i ymateb i’r heriau sy’n ein wynebu drwy gydweithio a chydweithredu

Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:

  • Creu ‘Swyddfa Cabinet’ Gymreig gyda’r gallu ac adnodd digidol i sbarduno ein blaenoriaethau fydd yn cynnwys arbenigwyr polisi, cyflawni, a data
  • Penodi gweinidog penodol, fydd yn gweithio ochr yn ochr â thîm craidd o weinidogion, i sicrhau cynnydd ar ein blaenoriaethau allweddol ac adrodd yn rheolaidd i’r Cabinet
  • Cytuno ar gyfres o ddeilliannau mesuradwy a cherrig milltir ar gynnydd – gyda’r rhain yn cael eu rhannu’n eang – lle gallwn fesur llwyddiant ein hymdrechion i newid bywydau pobl er gwell
  • Cymryd agwedd o brofi a dysgu at gyflawni ar ein blaenoriaethau allweddol, i alluogi gweithredu’n gyflym a hyblyg
  • Dechrau ar y gwaith o gyflwyno rhaglen well o hyfforddi a datblygu ar draws y sector cyhoeddus Cymreig er mwyn datblygu sgiliau a meithrin undod pwrpas a gweledigaeth wrth ddatblygu Ysgol Lywodraethu Genedlaethol

Ein huchelgais yw i Gymru ddod yn adnabyddus am arloesedd ac effeithlonrwydd o ran delifro gwasanaethau cyhoeddus – i newid bywydau pobl er gwell. Mae gennym strategaeth glir – a ddatblygwyd trwy ddwyn ynghyd fewnwelediad gan bobl a sefydliadau o bob rhan o’r DG a thu hwnt – er mwyn sicrhau y gall Llywodraeth Plaid Cymru wneud newid positif ac ystyrlon i fywydau pobl.