Cynaliadwyedd, adnoddau a gwytnwch gwledig
Mae ein toreth o adnoddau naturiol – gwynt, dŵr a thonnau – yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa dda i arwain y byd mewn pontio gwyrdd cyfiawn. Gyda hyn, daw cyfleoedd cyffrous ar gyfer datblygu economaidd a chymunedol.
Mae ein gallu i gynhyrchu bwyd cynaliadwy o safon eithriadol hefyd yn ased allweddol – ac un y dylem ei warchod ac adeiladu arno.
Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd camau beiddgar newydd i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur sydd yn gorgyffwrdd.
Fe wnawn yn siŵr fod pobl, teuluoedd a busnesau yng Nghymru yn gallu manteisio o ddifri ar ein potensial ynni adnewyddol.
Ac fe fyddwn yn cryfhau ein cymunedau gwledig, yn cefnogi ein ffermwyr, ac yn gweithio i adeiladu system fwyd cynaliadwy i Gymru.
Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:
Taclo’r argyfyngau hinsawdd a natur
- Cychwyn gwaith ar ddiweddaru Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur, fydd yn canolbwyntio ar lunio llwybr ymarferol at sero net erbyn 2040 ac adferiad sylweddol i natur erbyn 2050
Ynni adnewyddol
- Blaenoriaethu paratoi Strategaeth Ynni Genedlaethol newydd, gan gynnwys Cytundeb Sector Ynni Adnewyddol a mesurau newydd i hybu ynni adnewyddol sydd mewn dwylo cymunedol
- Datgelu cynlluniau i ddatblygu Trydan Gwyrdd Cymru yn un cwmni ynni cenedlaethol cryfach
Gwytnwch amgylcheddol a chymunedol
- Pwyso ar Lywodraeth y DG am gyfiawnder amgylcheddol i gymunedau’r maes glo a chyllid i adfer tipiau glo a thir halogedig
- Amlinellu cylch gorchwyl Fforwm Gwytnwch a Pharodrwydd Llifogydd i Gymru fydd yn dwyn ynghyd awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwasanaethau brys, a mudiadau cymunedol i gydgordio strategaeth genedlaethol ar lifogydd
Bwyd, ffermio a chymunedau gwledig
- Cadarnhau cylch cyllido aml-flwyddyn i gymryd lle y taliad blwyddyn Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) presennol
- Comisiynu adolygiad annibynnol o’r baich biwrocrataidd ar ffermydd teuluol yng Nghymru er mwyn lleihau dyblygu a gwaith papur diangen i ffermwyr
- Dechrau gwaith ar Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd a chynhwysfawr fydd yn adeiladu sicrwydd a llythrennedd bwyd, yn cryfhau cadwyni cyflenwi bwyd, ac yn defnyddio’r plât Cymreig cyhoeddus i gefnogi ein diwydiant bwyd a diod
- Cyflwyno cynlluniau i greu dyletswydd statudol newydd i ddiogelu cymunedau gwledig at y dyfodol, gan sicrhau bod rhaglenni a modelau cyllido Llywodraeth Cymru yn ymateb yn llawn i anghenion cymunedau gwledig