Datgloi potensial economaidd Cymru
Mae sawl busnes yng Nghymru eisoes yn llwyddo ar y llwyfan rhyngwladol. Ond mae economi Cymru hefyd yn llawn dop o botensial sydd eto i’w ryddhau.
Bydd ein cynllun economaidd yn datgloi’r potensial hwnnw - gan dyfu a chynnal busnesau sydd mewn dwylo Cymreig, creu swyddi da, adfywio canol ein trefi a hybu safonau byw.
Trwy Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol newydd i Gymru a arweinir gan fusnes, byddwn yn helpu busnesau i sicrhau buddsoddiad, masnach ac arloesedd. Fe wnawn yn sicr y bydd mwy o’n busnesau llwyddiannus yn aros mewn dwylo Cymreig – gan ddarparu swyddi cynaliadwy gyda chyflogau da yn ein cymunedau ac ail-fuddsoddi mewn cadwyni cyflenwi lleol dros y tymor hwy.
Byddwn yn diwygio trethi busnes i greu system decach i fusnesau ar y stryd fawr, ac unioni’r anghydbwysedd presennol sy’n rhoi mantais i siopau y tu allan i’r dref dros fusnesau lletygarwch, hamdden a manwerthu yng nghanol ein trefi.
A thrwy ddatblygu system sgiliau Gymreig sy’n addas at y dyfodol, fe wnawn yn siŵr fod gan bawb y sgiliau y mae arnynt eu hangen i lwyddo. Fe wnawn yn sicr bod cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn cael eu hasio gyda gwir anghenion cyflogwyr a diwydiannau Cymru, ac sy’n adlewyrchu cyfleoedd y dyfodol yn economi Cymru.
Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:
Economi
- Sefydlu panel o arbenigwyr busnes ac economaidd i fireinio cylch gorchwyl, llywodraethiant, a model gweithredu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol newydd
- Sefydlu tasglu canol trefi i archwilio’r opsiynau o ran diwygio ardrethi busnes sy’n rhoi gwell cefnogaeth i adfywio’r stryd fawr, ynghyd â newidiadau polisi eraill fydd yn cefnogi canol ein trefi – gan gynnwys diwygiadau i’r system gynllunio i fireinio’r broses o droi eiddo masnachol yn eiddo preswyl
- Sefydlu Comisiwn Economaidd a Chyllidol i gefnogi casglu a dadansoddi data economaidd Cymreig, a gosod targedau clir ar yr economi
Ynni
- Blaenoriaethu paratoi Strategaeth Ynni Cenedlaethol fydd yn cynnwys yr isod:
- Cytundeb Sector Ynni Adnewyddol – ffurfio partneriaethau newydd rhwng y llywodraeth, diwydiant, cymunedau, addysg bellach ac uwch, a phartneriaid cymdeithasol
- Targedau ar gynhyrchu trwy dechnoleg
- Mwy o gefnogaeth i brosiectau ynni mewn dwylo cymunedol
- Diwygiadau i’r system gynllunio fydd yn gosod terfynau amser cadarnach am ymatebion i geisiadau cynllunio
- Cyflwyno cynlluniau i ddatblygu Trydan Gwyrdd Cymru yn un cwmni ynni cyfunol yn nwylo pobl Cymru er eu mwyn, a chyda chylch gorchwyl clir i helpu i leihau biliau ynni dros y tymor canol a’r tymor hir
Sgiliau
- Lansio archwiliad sgiliau Cymru gyfan i adnabod anghenion sgiliau at y dyfodol yn economi Cymru a bod yn sail o wybodaeth i’n penderfyniadau polisi
- Paratoi i gynnull Uwch-Gynhadledd Sgiliau’r Dyfodol – i gynnwys cynrychiolwyr y sector Addysg Bellach/Addysg Uwch, busnesau a rhanddeiliaid perthnasol eraill i greu un weledigaeth ac un strategaeth ar gyfer dyfodol ein system sgiliau a sut y caiff ei chyllido
Cyfoeth cymunedol
- Datblygu Bil Hawl Cymunedol i Brynu i’w gyflwyno yn y Senedd
Trafnidiaeth
- Cychwyn trafodaethau gyda Llywodraeth y DG ar gyllid teg o HS2 a phrosiectau rheilffyrdd eraill i Loegr yn unig, cyfran decach o gyllid rheilffyrdd cyffredinol y DG, a llwybr tuag at ddatganoli rheilffyrdd yn llawn
- Gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i fwrw ymlaen i integreiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth yn llawn – gan gynnwys ar docynnau clyfar, prisiau tecach am docynnau, a chapio teg
- Paratoi i lansio gwasanaeth bysus cyflym i gysylltu’r gogledd a’r de fel cam cyntaf i wella’r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng de a gogledd