Tai, llywodraeth leol a system gynllunio sy’n canoli ar gymunedau

Dylai pawb yng Nghymru fod â’r hawl i gartref diogel ar gost y gallent ei fforddio. A dylent allu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus effeithiol mewn cymunedau bywiog, ffyniannus gyda chysylltiadau da.

Mae cartref cynnes, diogel a fforddiadwy yn rheidrwydd sylfaenol am fywyd iach a hapus. Ond i ormod o bobl yng Nghymru, nid yw hyn o fewn eu cyrraedd. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio i newid hynny.

Byddwn yn gwarchod rhentwyr, yn adeiladu mwy o dai cymdeithasol ac yn gwella ansawdd ac effeithlonrwydd ynni tai Cymru.

Byddwn yn diwygio’r system gynllunio fel ei bod yn gwasanaethu ein pobl, cymunedau a’n busnesau yn well, ac yn helpu i adeiladu Cymru fwy cysylltiedig a ffyniannus, ac yn adolygu rheoliadau cynllunio fel eu bod yn addas at y dyfodol.

Ac fe wnawn sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yn y sefyllfa gryfaf oll i ddarparu’r gwasanaethau yr ydym oll yn dibynnu arnynt.

Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:

Tai i bawb

  • Sefydlu Unnos – corff datblygu cenedlaethol a galluogwr tai cymdeithasol newydd fydd yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ddwyn tir ynghyd a sicrhau cyllid ar gyfer tai cymdeithasol
  • Amlinellu cynigion am wneud rhentu yng Nghymru yn decach, a dechrau ar y gwaith o ddeddfu am Hawl i Dai Digonol

Cartrefi cynhesach a mwy ynni-effeithlon

  • Adolygu’r Rhaglen Cartrefi Cynnes bresennol, a gweithio i gyflwyno newidiadau fel y gallwn fynd ymhellach ac yn gyflymach ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi – codi safonau byw, mynd i’r afael â thlodi tanwydd, a lleihau allyriadau carbon mwy o aelwydydd, yn gyflymach

Llywodraeth leol

  • Comisiynu adolygiad o fformiwla gyllido llywodraeth leol, i gyflwyno argymhellion ar gyfer diwygio fel ei fod yn adlewyrchu yn well gwir gost cyflwyno gwasanaethau mewn gwahanol rannau o Gymru
  • Sefydlu perthynas waith gydag awdurdodau lleol ledled Cymru, cytuno ar flaenoriaethau ar y cyd a ffyrdd o weithio, ar sail Cytundeb Partneriaeth Strategol a adnewyddwyd

Cynllunio a datblygu rhanbarthol

  • Archwilio dewisiadau ar gyfer lleihau cymhlethdod a biwrocratiaeth prosesau cynllunio ac ymestyn hawliau datblygu a ganiateir, gan gynnwys ar gyfer tai dan arweiniad cymunedol ac ynni adnewyddol i aelwydydd
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid rhanbarthol eraill i ddatblygu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd sy’n cwrdd ag anghenion Cymru, yn grymuso llywodraeth leol ac yn lleihau costau, biwrocratiaeth a dyblygu