Y dechrau gorau i bob plentyn
Mae Plaid Cymru eisiau i bob plentyn gael y dechrau gorau oll mewn bywyd, waeth beth fo’u hamgylchiadau. Mae’r cyfraddau presennol o dlodi plant yn warth yn ein cymdeithas – rydym ni eisiau newid hynny.
Gall costau gofal plant fod yn straen enfawr i sawl aelwyd, gan adael rhieni yn ei chael hi’n anodd dal dau pen llinyn ynghyd, a rhoi mwy o bwysau ar deidiau a neiniau a all hefyd fod yn gofalu am berthnasau oedrannus eu hunain.
Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn rhoi ar waith y cynnig gofal plant mwyaf uchelgeisiol a hael yn hanes datganoli, gan helpu rhieni i arbed miloedd o bunnoedd ym mlynyddoedd cyntaf bywyd eu mab neu eu merch.
Wedi ein hysbrydoli gan Lywodraeth yr Alban, byddwn hefyd yn cyflwyno Cynllun Peilot Taliad Plentyn – Cynnal, wedi ei dargedu at y teuluoedd hynny sydd mewn mwyaf o angen fel cam pendant i helpu i daclo tlodi plant.
Byddwn hefyd yn ymrwymo i ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd mewn aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, heb unrhyw derfyn incwm, o Fedi 2026 ymlaen.
Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:
Cynnig Gofal Plant
- Sefydlu grŵp llywio o arbenigwyr a thasglu gofal plant yn y gwasanaeth sifil Cymreig – i roi sylfaen cadarn i gyflwyno’r cynnig newydd fesul cam, cynllunio’r gweithlu, gwella mynediad a mireinio ceisiadau fel blaenoriaethau clir
- Gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gofal plant ar gynlluniau i gwblhau, fel mater o frys, cyflwyno 12.5 awr o ofal plant wedi ei gyllido i bob plentyn 2 oed – a gychwynnwyd dan y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru fel yr oedd
- Lle bo’r gwaith o gyflwyno’r uchod eisoes wedi ei gwblhau neu bron a’i gwblhau, datblygu cynlluniau lleol i ehangu i 20 awr i bob plentyn 2 oed, ac ymestyn 20 awr o ofal i blant 3 a 4 oed nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd am y Cynnig Gofal Plant presennol i Gymru – fydd yn cymryd i ystyriaeth gynllunio a datblygu’r gweithlu, ac ehangu nifer a galluedd lleoliadau gofal plant
- Prysuro cynlluniau i ehangu’n raddol oriau gofal a gyllidir i blant 9 mis i 2 flwydd oed
Taclo tlodi plant
Gan gymryd agwedd newydd wedi ei thargedu tuag at leihau lefelau o dlodi plant, ar sail y dystiolaeth orau o’r hyn sy’n gweithio i leihau tlodi, byddwn yn gwneud y canlynol:
- Dechrau gwaith ar unwaith i ddatblygu targedau lleihau tlodi penodol, uchelgeisiol a chyraeddadwy i gefnogi creu cynllun newydd wedi ei dargedu er mwyn taclo tlodi plant
- Ymrwymo i ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd mewn aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol, heb unrhyw derfyn incwm, o Fedi 2026 ymlaen.
- Paratoi i weithredu cynllun peilot Cynnal – y Taliad Plant Cymreig – gan gomisiynu tîm arbenigol i helpu i arwain ar ei ddylunio, cyflwyno, monitro a gwerthuso