Cymru iach a gofalgar

Dri chwarter canrif ers ei eni, mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, oedd unwaith yn enwog ledled y byd ac yn destun balchder i’n cenedl, yn awr yn wynebu galw di-ben-draw ac adnoddau sydd dan bwysau.

Mae’r gallu i gleifion gyrraedd y gwasanaeth mewn da bryd wedi ei beryglu oherwydd bod gofal sylfaenol a chymdeithasol wedi eu hesgeuluso, sydd yn cyfrannu at gylch dieflig o gostau cynyddol ac anghynaladwy ar y rheng flaen, a rhestrau aros sy’n gynyddol faith.

Yn y cyfamser, bydd heriau demograffig y degawdau i ddod, fydd yn cynnwys poblogaeth sy’n heneiddio, yn gweld y pwysau hyn yn gwaethygu.

Byddwn yn dechrau ar y broses o adfer i gael ein Gwasanaeth Iechyd yn ôl ar ei draed.

Byddwn ni’n canolbwyntio ar leihau rhestrau aros, cynyddu cyllid i ofal sylfaenol, rhoi mwy o bwyslais ar iechyd ataliol ar draws pob adran o’r llywodraeth, a chreu system o ofal cymdeithasol mwy gwydn ar gyfer y tymor hir.

Byddwn yn sicrhau Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio i gleifion a staff rheng flaen fel ei gilydd.