Cynllun Canser newydd
Caiff 1 o bob 2 o bobl yng Nghymru ddiagnosis o ganser ar ryw bwynt yn eu bywydau, ac erbyn 2030, amcangyfrifwyd y bydd 230,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chanser.
Ond er mor gyffredin yw canser yn ein cymdeithas, ac er ymdrechion a sgiliau staff rhagorol ein Gwasanaeth Iechyd, mae ansawdd cyffredinol gofal canser yng Nghymru, o ran cyfraddau diagnosis, triniaeth a chanlyniadau clinigol, yn parhau i fod ar ei hôl hi yn ddifrifol.
Rydym wedi ymrwymo i wella safonau gofal ar draws yr holl lwybr cleifion canser – gyda phwyslais ar atal, diagnosis cynnar, mynediad cyfartal at driniaeth a chryfhau rhwydweithiau cefnogaeth i oroeswyr.
Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:
- Dechrau paratoi Cynllun Canser newydd i Gymru
- Drafftio deddfwriaeth am yr ‘Hawl i gael eu Hanghofio’ i oroeswyr canser i’w gwarchod rhag camwahaniaethu ar ffurf premiymau yswiriant uwch neu anawsterau wrth gael morgais
- Comisiynu astudiaeth dichonoldeb i sefydlu Canolfan Ddiagnostig Cyflym (CDdC) ym Mhowys
- Dechrau paratoadau ar gyfer Cynhadledd Canser Cymru yn 2027, gyda’r nod o ddwyn ynghyd weithwyr gofal iechyd proffesiynol a rhanddeiliaid i rannu’r arferion gorau a’r datblygiadau diweddaraf ym maes gofal canser
- Gwneud cais am ymweliad gan fenter Cancer Pulse Ewrop ar gyfer 2027 i asesu gwahaniaethau rhanbarthol a chymdeithasol yn ansawdd gofal canser yng Nghymru
- Drafftio cynlluniau am ffrwd gyllido ddynodedig i roi cefnogaeth costau teithio a llety i gleifion sy’n teithio y tu allan i Gymru i dderbyn triniaeth arbenigol am ganser