Adfer gwasanaethau meddygon teulu a gofal cymdeithasol

Mae’r esgeulustod cronig o ofal sylfaenol a gofal cymdeithasol dan Lafur wedi creu cylch cas o alw a chostau cynyddol i wasanaethau rheng-flaen y GIG. Yn y cyfamser, mae gallu cael apwyntiadau gyda meddyg teulu yn prysur ddod yn foethusrwydd prin ledled Cymru, ac y mae miloedd o gleifion yn gorfod aros mewn gwelyau ysbytai oherwydd nad oes digon o le mewn gofal yn y gymuned.

Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:

  • Cynnull uwch-gynhadledd o holl brif weithredwyr byrddau iechyd i ddatblygu map ar gyfer symud adnoddau’r GIG yn gynaliadwy tuag at ofal sylfaenol
  • Sicrhau cytundeb gyda’r byrddau iechyd y bydd y gyfran o’u cyllidebau a neilltuir i ofal sylfaenol yn cynyddu o 0.5% bob blwyddyn o 2027/28 ymlaen
  • Comisiynu ymchwil ar ail-lunio’r fformiwla ar gyfer dosbarthu cyllid i feddygon teulu
  • Agor recriwtio ar gyfer cyfarwyddwr Cymru-gyfan am drefniadau gofal y tu allan i ysbytai
  • Cyfarwyddo Llais i benodi ‘Pencampwr Gofal Cymdeithasol’ fydd yn cael cyfarfodydd chwarterol rheolaidd gyda’r Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd

Cymru iach a gofalgar | A healthy and caring Wales: darllen mwy