Gwneud ein GIG yn ddiogel at y dyfodol
Byddwn yn rhoi ein gwasanaethau iechyd a gofal mewn trefn newydd a chynaliadwy i gwrdd â heriau’r 21fed ganrif. Mae hyn yn cynnwys dwyn gwariant ar iechyd dan reolaeth, a thrwy wneud hynny ddatgloi mwy o adnoddau i’w buddsoddi er mwyn mynd i’r afael ag achosion gwaelodol afiechyd, yn hytrach na rheoli salwch.
Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:
- Sefydlu tîm effeithlonrwydd cyllid iechyd yn Llywodraeth Cymru, a fydd yn gyfrifol am fonitro a gwerthuso perfformiad ariannol gwasanaethau iechyd, ac i ddatblygu cymhellion cryf i reoli cyllidebau yn ddarbodus
- Datblygu map i ddileu gwariant ar staff asiantaethau preifat yn y GIG erbyn 2030
- Comisiynu archwiliad cynhwysfawr o ffynonellau data iechyd yng Nghymru
- Comisiynu adolygiad ar y cyd gydag Archwilio Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar effeithiolrwydd y Fframwaith Dwysáu ac Ymyriad cyfredol
- Dechrau datblygu rhaglen gyflawni ddeng-mlynedd ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ar sail yr uchelgais cyffredinol o wneud Cymru yn arweinydd y byd mewn arloesi iechyd digidol