Taclo rhestrau aros

Dan Lafur, mae bron i un o bob pump o holl boblogaeth Cymru yn aros hydoedd ar restrau aros y Gwasanaeth Iechyd. Mae hyn yn rhoi straen annioddefol ar gleifion a staff fel ei gilydd. Allwn ni ddim gobeithio sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r Gwasanaeth heb gymryd camau brys i ymdrin â’r gwaddol niweidiol sy’n ganlyniad 27 mlynedd o gamreoli ein system iechyd gan Lafur.

Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:

  • Comisiynu adolygiad annibynnol ar berfformiad y GIG yng Nghymru – gyda phwyslais arbennig ar effaith rhestrau aros ar iechyd y boblogaeth
  • Cynnull Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gofal dethol, gydag arbenigwyr perthnasol, a fydd yn gyfrifol am ddatblygu cynllun cyflawni, a gyhoeddir erbyn diwedd 2026, ar sefydlu hyd at ddeg o ganolfannau gofal dethol newydd ledled Cymru
  • Ymgynghori ar ddylunio cynllun gweithredu tele-iechyd i Gymru

Cymru iach a gofalgar | A healthy and caring Wales: darllen mwy