Cadw pobl yn iachach yn hirach
Mae gofalu fod gan bobl Cymru’r modd a’r cyfle i fyw bywydau iachach a mwy hapus wrth galon ein gweledigaeth ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn golygu asio yn strategol bopeth a wnawn gyda’r agenda iechyd cyhoeddus.
Mae hyn hefyd yn golygu mynd i’r afael ag anghydraddoldebau cysylltiedig ag iechyd sydd yn arbennig o anfanteisiol i gymunedau gwledig, ardaloedd mwy difreintiedig, menywod a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â gwneud i ffwrdd â’r loteri cod post sydd yn rhy aml yn diffinio ansawdd a hygyrchedd gofal.
Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:
- Creu rôl yn y llywodraeth gyda chyfrifoldeb dros Iechyd Cyhoeddus, i oruchwylio’n strategol holl weithgaredd y llywodraeth o ran creu poblogaeth iachach
- Cyfarwyddo swyddogion Trysorlys Cymru i ymchwilio i ddichonoldeb sefydlu Llinell Gwariant Ataliol Adrannol (LlGAA) yng nghyllideb Cymru am 2027/28
- Dechrau cyflwyno rhaglen iechyd ataliol megis ein rhaglen Nofio a Diogelwch Dŵr i Ysgolion newydd a’r fenter Milltir y Dydd yn ysgolion Cymru
- Drafftio deddfwriaeth i wneud Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn statudol er mwyn meithrin cydweithredu systemaidd a rhannu adnoddau rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol
- Comisiynu adolygiad o anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru
- Ymgynghori â’r Comisiwn Ewropeaidd i ddysgu’r arferion gorau o ddatblygiad eu Ap GofalClyfar, gyda’r nod o gopïo ei swyddogaethau yn Ap GIG Cymru