Codi safonau addysg

Bydd addysg yn hollol greiddiol i uchelgais llywodraeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru – dyma’r allwedd i ddatgloi cyfleoedd newydd a gwell, ac adeiladu’r genedl fwy hyderus, arloesol a chynhyrchiol y gwyddom y gall Cymru fod.

Mae sicrhau y bydd ein holl bobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda’r lefelau uchaf posib o llythrennedd a rhifedd yn hanfodol os ydym am roi iddynt y sylfaen gorau ar gyfer eu dyfodol.

Bydd Plaid Cymru yn cyflwyno strategaeth feiddgar, ymarferol a chynhwysol i godi safonau addysgol yn ein hysgolion.

Fe wnawn yn siŵr y bydd y Cwricwlwm i Gymru yn darparu dyfnder gwirioneddol o wybodaeth pwnc-benodol. Ac fe fyddwn yn gweithredu Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd er mwyn sefydlu meincnodau cenedlaethol, rhoi cefnogaeth wedi ei dargedu, sicrhau dysgu o safon uchel sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth, gan olrhain cynnydd pob myfyriwr mewn modd tryloyw.

Erbyn 2030, fe wnawn yn siŵr fod gan bob ysgol gynradd yng Nghymru ofod wedi ei neilltuo i lyfrgell, a bod darllen yn cael ei wreiddio ym mhob maes pwnc - nid dim ond mewn Cymraeg a Saesneg.

Camau yn y 100 diwrnod cyntaf:

Codi safonau

  • Bwrw ymlaen i ddatblygu Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd a chytuno ar linell amser i’w weithredu
  • Cynllunio i gyflwyno’r rhaglen newydd o Lyfrgelloedd mewn Ysgolion Cynradd
  • Cynyddu cymhellion Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) mewn pynciau lle mae prinder i £5,000 ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod
  • Gweithredu argymhellion y Grŵp Strategol Cydgordio Baich Gwaith i ddechrau lleihau’r baich biwrocrataidd ar athrawon

Agwedd gyfun tuag at ymddygiad, presenoldeb a lles

  • Gweithio gydag athrawon, awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu fframwaith er mwyn mynd i’r afael â’r pynciau sy’n gorgyffwrdd – presenoldeb ac ymddygiad gwael – a gwella amodau a deilliannau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a lles myfyrwyr
  • Dechrau ar y gwaith o greu cynllun peilot o raglen ‘Ysgolion Cymunedol a Mwy’, i edrych i weld sut y gellir cydgrynhoi gwahanol ffrydiau cyllido er mwyn gwreiddio cefnogaeth arbenigol sy’n ymwybodol o drawma yn well i ymdrin a heriau iechyd meddwl, lles ac ymddygiad yn ein hysgolion

Stad ysgolion sy’n addas i bwrpas

  • Comisiynu arolwg cenedlaethol o gyflwr adeiladau ysgolion i gael gwell darlun o’r stad ysgolion yng Nghymru a nodi’r gwaith trwsio ac uwchraddio sydd angen y mwyaf o frys

Ffonau clyfar mewn ysgolion

  • Cyflwyno cynlluniau i roi’r grym i awdurdodau lleol hyrwyddo diogelwch, dysgu a lles myfyrwyr trwy gyfyngu ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion i rai dan 16 oed

Sector addysg uwch cynaliadwy

  • Comisiynu adolygiad trawsbleidiol a chynhwysfawr o sut mae prifysgolion yng Nghymru yn cael eu hariannu, gyda chylch gorchwyl clir sy’n cynnwys sicrhau bod mwy o werth buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn Addysg Uwch yn aros yng Nghymru, a bod mwy o fyfyrwyr Cymru yn cael eu cefnogi i astudio yng Nghymru
  • Archwilio opsiynau ar gyfer diwygio rhaglen Seren, fel ei bod yn canolbwyntio yn hytrach ar fynd i’r afael â’r bwlch cyfranogiad, a chefnogi myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig i ddilyn addysg uwch