Y newyddion diweddaraf.

Cofnod Llafur yn “bradychu eu gwerthoedd” - Plaid yn beirniadu diffyg cynnydd cymdeithasol

Heddiw mae Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan a Chyfarwyddwr Ymgyrch Etholiad y Senedd, Liz Saville Roberts AS, wedi beirniadu record Llywodraeth Llafur Cymru mewn grym, gan ddweud bod y diffyg cynnydd cymdeithasol yn ystod Lywodraeth Llafur yn cynrychioli “brad” o werthoedd y blaid Lafur.

Parhau i ddarllen

Cyhuddo’r Prif Weinidog o “wfftio’r Gymraeg” drwy wrthod cymryd rhan yn nadl S4C

Mae Sian Gwenllian, ymgeisydd Plaid Cymru dros Arfon a llefarydd y blaid dros yr iaith wedi cyhuddo’r Prif Weinidog Mark Drakeford o “wfftio’r Gymraeg” drwy wrthod cymryd rhan yn nadl deledu S4C dridiau cyn Etholiad y Senedd ar Fai’r 6fed.

Parhau i ddarllen

Swyddi, Swyddi, Swyddi: Mantra creu swyddi Plaid i fynd i’r afael ag “etifeddiaeth economaidd druenus” Llafur

Heddiw mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o adael Cymru ag “etifeddiaeth economaidd druenus” o ganlyniad i fethu â chefnogi busnesau brodorol Cymru a chreu swyddi â chyflog da ar ôl 22 mlynedd mewn grym.

Parhau i ddarllen

5 rheswm dros bleidleisio Plaid Cymru

Dal yn ansicr dros pwy i fwrw dy bleidlais ar y 6 o Mai? Dyma 5 rheswm dros bleidleisio dros Blaid Cymru. 

Parhau i ddarllen

Dim ond bygythiad credadwy o annibyniaeth sy'n rhoi mwy o drosoledd i Gymru yn Llundain - Adam Price.

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi dadlau heddiw mai “dim ond bygythiad credadwy o annibyniaeth sy’n rhoi trosoledd i Gymru yn Llundain.”  

Parhau i ddarllen

Ymgeisydd Heddlu yn beirniadu Llywodraeth ‘greulon’ a ‘ffyrnig’ y DG ar drais domestig

Plaid Cymru yn ymrwymo i wrthwynebu styfnigrwydd San Steffan dros y Mesur Cam-drin Domestig

Parhau i ddarllen

Plaid yn addo ‘rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol’ i ddod â “Lladrad Trên” Cymru i ben

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi addo heddiw y byddai llywodraeth Plaid yn dod â “Lladrad Trên” San Steffan i ben trwy fuddsoddi mewn creu rhwydwaith reilffordd wirioneddol genedlaethol i Gymru.

Parhau i ddarllen

Plaid i daclo argyfwng tai gyda cynlluniau ar gyfer 50,000 o gartrefi fforddiadwy

Heddiw (dydd Mercher 28 Ebrill), mae ymgeisydd Etholiad Senedd Plaid Cymru ar gyfer Caerffili, Delyth Jewell, wedi nodi addewid ei phlaid i lansio “y rhaglen adeiladu tai cyhoeddus fwyaf ers hanner can mlynedd” i helpu’r miloedd o aelwydydd sydd ar restrau aros tai ledled Cymru ar hyn o bryd.

Parhau i ddarllen

Gall ewyllys wleidyddol ddileu tlodi plant - Plaid Cymru

Dim ond trwy ethol llywodraeth Plaid Cymru y bydd gweld gweithredu ar unwaith i helpu 180,000 o blant sy'n byw mewn tlodi, meddai ymgeisydd y Senedd ar gyfer Caerffili Delyth Jewell.

Parhau i ddarllen

Plaid Cymru yn cadarnhau’r nod hirdymor o hyfforddiant prifysgol am ddim gan ddechrau gyda chap ffioedd is

Heddiw (dydd Llun 26 Ebrill), mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi cadarnhau nod hirdymor ei blaid o wneud addysg prifysgol yn rhad ac am ddim eto, gan ddechrau gyda chap is ar ffioedd.

Parhau i ddarllen