Plaid Cymru yn ymrwymo i wrthwynebu styfnigrwydd San Steffan dros y Mesur Cam-drin Domestig

Mae ymgeisydd Plaid Cymru i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Ann Griffith, wedi ymateb i’r ffaith bod Llywodraeth y DG wedi gwrthod mwy o gamau i warchod menywod yn y Mesur Cam-drin Domestig, gan ei ddisgrifio fel “penderfyniad creulon gan lywodraeth ffyrnig y DG  sy’n troi tuag yn ôl.”

Dywedodd Ann Griffith fod gwrthod gwelliant hollbwysig i greu cofrestr cam-drin domestig, a gynigiwyd gan arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan Liz Saville Roberts llynedd, yn gadael y drws ar agor i ddrwgweithredwyr barhau â’r cylch o gam-drin, ac yr oedd yn siom enfawr i ddioddefwyr victims.

Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd fod y penderfyniad hefyd i wrthod camau i warchod dioddefwyr sy’n fewnfudwyr yn hollol groes i ddymuniadau’r sector diogelu rhag trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sydd wedi dweud yn glir bod angen cael gwarchodaeth statudol i ddioddefwyr sy’n fewnfudwyr fel mate ro frys i atal mwy o gamdrin a marwolaethau.

Aeth yn ei blaen i ddweud y byddai Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Plaid Cymru, ynghyd â Llywodraeth Plaid Cymru yn y Senedd, yn gosod atal ac amddiffyn wrth galon gwneud penderfyniadau, a fyddai’n effeithiol i rwystro “styfnigrwydd San Steffan.”

Ymrwymodd i weithio gyda gwasanaethau cefnogi i fynd ati i reoli drwgweithredwyr cyson yn y gymuned, a gweithio i wneud Cymru yn “wir genedl lloches i bawb sy’n dianc rhag cam-drin ac erledigaeth, waeth beth fo’u statws mewnfudo.”

Dywedodd bod y penderfyniad yn dystiolaeth o fethiant San Steffan i fod o ddifrif am y broblem, gan nodi “mai dim ond ychydig wythnosau a aeth heibio ers marwolaethau trist Sarah Everard, Wenjing Lin ac eraill, pan addawodd Llywodraeth San Steffan fynd i’r afael a thrais tuag at ferched a menywod."

Meddai Ann Griffith:

“Mae’n annerbyniol fod y llywodraeth hon yn San Steffan wedi gwrthod y camau hollbwysig hyn i warchod dioddefwyr cam-drin domestig a stelcian.

“Mae’r ffaith fod y Ceidwadwyr wedi gwrthod cynnwys cofrestr i’r sawl sy’n cam-drin yn y cartref ac yn stelcian yn fwy rhyfeddol fyth o ystyried mai dim ond ychydig wythnosau sydd wedi mynd heibio ers marwolaeth drist  Sarah Everard, Wenjing Lin ac eraill, pan addawodd Llywodraeth San Steffan i fynd i’r afael â thrais tuag at ferched a menywod.”

“Bydd penderfyniad creulon gan Lywodraeth ffyrnig ac adweithiol y DG i wadu’r hawl i fewnfudwyr o ddioddefwyr gyrchu arian cyhoeddus yn troi menywod ymaith oddi wrth lety a lochesi diogel.

“Mae Covid-19 wedi dangos na allwn ddychwelyd i bethau fel yr oeddent lle’r oedd dros chwarter o fenywod yng Nghymru wedi dioddef camdrin domestig fwy nag unwaith, a lle’r oedd llawer o fewnfudwyr a ddioddefodd yn ofni adrodd am droseddau i’r heddlu.

“Bydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Plaid Cymru yn atal styfnigrwydd San Steffan trwy weithio gyda gwasanaethau cefnogi i fynd ati i reoli drwgweithredwyr cyson yn y gymuned a gweithio i wneud Cymru yn wir genedl lloches i bobl sy’n dianc rhag camdriniaeth ac erledigaeth, waeth beth fo’u statws mewnfudo."