Yr etholiad ar 7 Mai fydd yr un pwysicaf ers dechrau datganoli.
Mae’n etholiad sy’n cynnig gobaith go iawn ar gyfer dyfodol Cymru. Plaid Cymru sy’n cynrychioli’r gobaith hwnnw drwy ein prosbectws ar gyfer adnewyddu, gweithredu go iawn o’r cychwyn cyntaf, ac addewid i sefyll dros Gymru bob amser.
Mae’r cyfle hwn am newid yn gwbl groes i hanes Llafur o reoli dirywiad a gwrthod gwneud safiad dros les ein gwlad yn wyneb difaterwch San Steffan.
A’r gobaith hwn sy’n hollbwysig er mwyn atal bygythiad Reform. Dydyn nhw ddim yn cynnig unrhyw atebion go iawn i heriau ein gwlad, gan ddibynnu yn hytrach ar eiriau gwag a chodi cynnen rhwng pobl.
Rydw i’n falch o gyflwyno maniffesto Plaid Cymru. Dyma ein cynllun ar gyfer Cymru fodern a hyderus – Cymru lle mae pob person a chymuned yn gallu cyfrannu at lwyddiant ein cenedl, ac elwa ar y llwyddiant hwnnw.
Mae Plaid Cymru’n barod i ffurfio llywodraeth newydd yng Nghymru gydag egni a phenderfyniad go iawn i fynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig i chi. Ac mae’r blaenoriaethau pwysicaf yn glir i ni.
Byddwn ni’n lleihau amseroedd aros y GIG, er mwyn sicrhau bod amser, lle ac adnoddau i adeiladu gwasanaeth iechyd a gofal cynaliadwy ac integredig i Gymru – gwasanaeth sy’n gwneud mwy i gadw pobl yn iach, yn hytrach na dim ond trin salwch.
Byddwn ni’n cefnogi teuluoedd ac yn rhoi’r dechrau gorau posib i bob plentyn drwy ein cynnig sy’n torri tir newydd i blant. A bydd Cynnal, ein cynllun peilot ar gyfer taliadau plant uniongyrchol, yn profi’r hyn rydyn ni’n ei gredu – nad yw tlodi plant yn anochel.
Drwy Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd, byddwn ni’n datgloi potensial economaidd Cymru – gan adeiladu ar ein cryfderau i greu swyddi diogel sy’n talu’n dda, a rhannu ffyniant o Fôn i Fynwy.
Drwy ymgyrch newydd, feiddgar a diwyro ar gyfer sgiliau rhifedd a llythrennedd, byddwn yn codi’r safonau yn ein hysgolion, gan roi pob plentyn yng Nghymru ar y llwybr at lwyddiant.
Rydw i’n addo arwain llywodraeth sy’n gweithio’n galed bob dydd i wella eich bywyd chi – llywodraeth sy’n fwy penderfynol, yn fwy uchelgeisiol ac yn fwy unedig o ran ei phwrpas a’i gweledigaeth nag unrhyw lywodraeth a fu.
Wna i byth betruso rhag sefyll dros Gymru – y wlad rydw i’n ei charu a gwlad sy’n rhannu’r un gwerthoedd â fi – cymuned, cyfiawnder, gwaith caled a chwarae teg.
Wna i fyth dderbyn dim llai na thegwch i fy ngwlad – o ran cyllid, holl fanteision ein hadnoddau naturiol, a’r pwerau sydd eu hangen arnom i wella bywydau pobl.
Rydw i’n gofyn i chi ymddiried ynom ni wrth i ni baratoi ar gyfer y cam nesaf ar daith ein cenedl.
Gyda’n gilydd, gallwn ni achub ar y cyfle hanesyddol hwn a rhoi arweinyddiaeth newydd, egni newydd a syniadau newydd i Gymru.
