Diwylliant yw curiad calon Cymru. Mae celf a cherddoriaeth, ein hiaith, ein treftadaeth, a’n traddodiadau chwaraeon yn hanfodol i bwy ydyn ni fel cenedl.
Mae Cymru angen llywodraeth sydd wir yn gwerthfawrogi diwylliant ac sy’n deall ei rôl o ran datgloi mwy o’n potensial economaidd, cynnal cymunedau bywiog a chydlynol, a gwella llesiant ein pobl.
O ystyried mai gwlad fach yw Cymru, mae hi wedi cael llwyddiant rhyfeddol o fawr ar y llwyfan rhyngwladol ers tro byd – yn y celfyddydau, y cyfryngau a chwaraeon. Gydag arweinyddiaeth gref a gweledigaeth newydd ar gyfer diwylliant, chwaraeon a’r iaith Gymraeg, byddwn yn cryfhau safle Cymru fel grym diwylliannol.
Gwyddom yn iawn am fanteision y celfyddydau, treftadaeth a chwaraeon i iechyd a llesiant. Rydyn ni eisiau i bobl o bob oed a gallu gael mwy o gyfleoedd, a gwell cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, celfyddydau cymunedol, theatr a cherddoriaeth.
A byddwn yn gwarchod ac yn cryfhau’r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru – drwy ein system addysg, ac yn ein cymunedau a’n gweithleoedd.