Strategaeth ddiwylliannol newydd ar gyfer Cymru fwy iach, cyfoethog a gwydn, a lefel newydd o fuddsoddiad mewn celf, diwylliant a chwaraeon

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn disodli’r ‘Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant’ amwys a gwan gyda strategaeth ddiwylliannol bwrpasol a real.

Byddwn yn sicrhau bod y strategaeth hon yn cael ei hariannu’n briodol, gan gynyddu’r gyllideb ar gyfer diwylliant, treftadaeth, y celfyddydau a chwaraeon o un flwyddyn i’r llall dros dymor nesaf y Senedd. Ynghlwm wrth hyn, bydd newid ehangach tuag at wariant ataliol sy’n cydnabod rôl ganolog diwylliant a chwaraeon o ran hybu iechyd da a chadw pobl yn iach.

Bydd ein strategaeth yn:

  • Seiliedig ar ailasesu’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector o’r bôn i’r brig, gan gydweithio ac ymgynghori’n llawn ag artistiaid, sefydliadau diwylliannol a threftadaeth, a rhanddeiliaid perthnasol eraill.
  • Hyrwyddo’r diwydiannau creadigol fel sbardun allweddol ar gyfer twf, arloesedd a chyfleoedd yn economi Cymru, ac fel maes sy’n darparu swyddi a hyfforddiant o ansawdd da sy’n talu’n dda.
  • Defnyddio prosesau comisiynu a chaffael cyhoeddus yn fwy strategol i gefnogi artistiaid, pobl greadigol a gwneuthurwyr o Gymru.
  • Gwneud y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yn rhan ganolog o hybu llesiant unigolion a chymunedau, ffyrdd egnïol ac iach o fyw, a chanlyniadau gwell ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol.
  • Blaenoriaethu mynediad cyfartal at y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon i bobl o bob oed, cefndir a gallu, a gwreiddio cyfleoedd diwylliannol mewn ysgolion a chymunedau lleol.
  • Sicrhau bod yr hyn rydyn ni’n ei gynnig o ran twristiaeth ddiwylliannol yn rhan ganolog o’r ffordd rydyn ni’n hyrwyddo Cymru i’r byd; cefnogi datblygiad parhaus Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru; a datblygu cynlluniau ar gyfer ‘angorfa’ sy’n cryfhau gallu Cymru i gynnal partneriaethau ac arddangosfeydd o bwys.

Byddwn yn adolygu rôl cyrff cyhoeddus fel Cymru Greadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cadw a Croeso Cymru a pha mor addas i’r diben ydyn nhw i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r strategaeth newydd hon.

Byddwn yn cefnogi un calendr blynyddol o ddigwyddiadau treftadaeth ddiwylliannol ar gyfer Cymru, er mwyn helpu trigolion a thwristiaid i ymgysylltu â’r cynnig llawn o amgueddfeydd, safleoedd treftadaeth, a gwyliau.

Byddwn yn archwilio opsiynau i wneud darpariaeth ddiwylliannol yn ofyniad statudol i gyrff cyhoeddus – gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd a pharciau cenedlaethol – drwy Ddeddf Diwylliant newydd, a sicrhau bod diwylliant wrth galon bywyd cyhoeddus yng Nghymru.


Diwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg: darllen mwy