Darlledu a’r cyfryngau

Bydd Plaid Cymru yn gweithio tuag at ddatganoli pwerau dros ddarlledu, gan gynnwys pwerau i reoleiddio, goruchwylio a sicrhau atebolrwydd dros ddarlledu a chyfathrebu yng Nghymru.

Fel cam dros dro, cyn datganoli’r pwerau hyn, byddwn yn bwrw ymlaen â chynlluniau i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru, er mwyn diogelu a chryfhau llwyfannau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yng Nghymru.

Byddwn yn adeiladu ar y mesurau cymorth cyhoeddus sydd eisoes ar waith ar gyfer newyddiaduraeth yng Nghymru, gan gynnwys y Gronfa Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd a swydd gohebydd penodedig y Senedd. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar opsiynau ar gyfer mecanweithiau cyllido hirdymor cynaliadwy, a dynodi newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yn wasanaeth cyhoeddus, er mwyn diogelu darpariaeth newyddion o ansawdd uchel ledled Cymru.

Byddwn hefyd yn cefnogi llwybrau hyfforddi a diogelwch proffesiynol i newyddiadurwyr, ac yn hyrwyddo llythrennedd yn y cyfryngau a dulliau moesegol o ymdrin â thechnolegau newydd sy’n effeithio ar gynhyrchu a lledaenu newyddion.


Diwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg: darllen mwy