Dylai pawb yng Nghymru gael mynediad at y celfyddydau a’n treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, waeth beth fo’u cefndir na ble maen nhw’n byw. Er mwyn sicrhau bod diwylliant yn hygyrch i bawb, byddwn yn gwneud y canlynol:
- Parhau i roi mynediad am ddim i bawb i’n Hamgueddfeydd Cenedlaethol, a pharhau i gefnogi mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol i deuluoedd incwm isel.
- Cynnal y consesiynau a’r prisiau mynediad gostyngol presennol i’n safleoedd treftadaeth, gan gynnwys ar gyfer pobl anabl, pobl ifanc, ymwelwyr hŷn, cyn-filwyr a phobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol – gan weithio i ehangu mynediad am ddim ar draws holl safleoedd Cadw a chyflwyno ein treftadaeth i gymunedau drwy allgymorth, teithiau, a mynediad digidol.
- Adnewyddu addysg ddiwylliannol a sicrhau bod hanes Cymru yn cael ei addysgu’n effeithiol fel rhan graidd o’r Cwricwlwm i Gymru, er mwyn cyflwyno celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru i blant o oedran cynnar.
- Parhau i gefnogi’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, i sicrhau bod cyfleoedd cerddorol ar gael i blant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed yng Nghymru, waeth beth fo’u cod post neu incwm eu teulu.
- Hyrwyddo perchnogaeth gymunedol a chydweithredol i ddiogelu a chreu mannau diwylliannol, cynnal hybiau cymunedol, a sicrhau eu hyfywedd hirdymor – gan gynnwys drwy Hawl y Gymuned i Brynu.