Chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ysgolion

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn hybu ac yn gwreiddio mwy o gyfranogiad a mwy o fynediad at chwaraeon ac ymarfer corff ar draws y cwricwlwm ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar lythrennedd corfforol o’r blynyddoedd cynnar ymlaen fel rhan hanfodol o ddatblygiad iach plant.

Byddwn yn:

  • Gweithio gyda Chwaraeon Cymru i ddatblygu cynnig Bywiog Bob Dydd fel rhan o ddull ysgol gyfan o ymdrin â gweithgarwch corfforol, gyda’r nod o gynyddu nifer y plant oed ysgol sy’n egnïol am 60 munud neu fwy bob dydd. Byddwn yn defnyddio’r arferion gorau a thystiolaeth ryngwladol, gan gynnwys y rhaglen School on the Move yn y Ffindir a’r rhaglen Healthy Active Learning yn Seland Newydd.
  • Ehangu’r cynllun Milltir y Dydd i bob ysgol gynradd yng Nghymru, lle mae plant yn rhedeg, loncian, olwyno neu gerdded er mwynhad ac ar eu cyflymder eu hunain am 15 munud yn yr awyr agored o leiaf dair gwaith yr wythnos. Mae hyn yn datblygu arferion iach drwy wneud mwy o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ysgol.

Mae nofio’n ffordd dda o ymarfer y corff – ond mae hefyd yn sgìl achub bywyd nad oes gan y rhan fwyaf o blant ifanc yng Nghymru. Yn 2024, dim ond 35% o blant ym mlynyddoedd ysgol 3-6 yng Nghymru oedd yn gallu nofio.

Byddwn yn cyflwyno rhaglen genedlaethol Nofio a Diogelwch Dŵr newydd i ysgolion, gyda chyllideb benodol i ddarparu isafswm o brofiadau nofio drwy’r ysgol i bob disgybl yng Nghymru, sy’n cynnwys 20 o wersi nofio a diogelwch dŵr i bob disgybl ym Mlynyddoedd 4 a 5.


Diwylliant, Chwaraeon a’r Gymraeg: darllen mwy