Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cydnabod rôl chwaraeon – o glybiau lleol i lefelau elît a rhyngwladol – o ran twf economaidd cynaliadwy a meithrin ein hyder a’n proffil fel cenedl, a bydd yn gwneud y gorau o hynny. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys Chwaraeon Cymru a sefydliadau chwaraeon cenedlaethol i ganfod a chefnogi cyfleoedd i ddatblygu.
Byddwn yn darparu cymorth strategol a hirdymor i gyrff llywodraethu cenedlaethol er mwyn denu digwyddiadau rhyngwladol i Gymru a’u cynnal yng Nghymru – gan ennyn diddordeb mwy o bobl o bob oed mewn chwaraeon a chynnig cyfleoedd i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan o’r radd flaenaf ar gyfer teithio a diwylliant.
Byddwn hefyd yn sicrhau bod cynlluniau gwaddol effeithiol yn cael eu datblygu pan fydd Cymru’n cynnal digwyddiadau fel y Tour de France ac Ewro 28, neu pan fydd ein timau cenedlaethol yn cyrraedd cystadlaethau rhyngwladol.
Mae Plaid Cymru yn credu y dylai digwyddiadau chwaraeon sydd o bwys cenedlaethol i Gymru, fel Rygbi’r Chwe Gwlad, barhau i gael eu darlledu am ddim ar y teledu.