Menter, Arloesedd a Chysylltedd

Nid oes prinder potensial yn economi Cymru.

Mae angen llywodraeth sydd â chynllun i’w ddatgloi.

Ein gweledigaeth yw Cymru lle nad oes yr un plentyn yn tyfu i fyny yn dlawd, lle mae swyddi teilwng yn talu cyflog byw gwirioneddol, lle mae gan bob person ifanc fynediad at waith, addysg neu hyfforddiant boddhaus, a lle mae ffyniant yn cael ei rannu o fewn ac ar draws ein cymunedau.

Mae gennym gynllun i wireddu’r weledigaeth hon – cynllun a fydd yn adeiladu economi gynaliadwy sy’n gweithio i bawb, ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl ym mhob rhan o Gymru.

Byddwn yn helpu busnesau Cymru i dyfu, arloesi a chreu swyddi.

Byddwn yn gwneud yn siŵr bod pobl yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

A byddwn yn cysylltu ein cymunedau ac yn rhoi mwy o reolaeth iddynt dros eu dyfodol economaidd eu hunain.


Darllen mwy