Fel rhan o Strategaeth Ddigidol newydd i Gymru, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cefnogi digideiddio ac arloesi yn economi Cymru, ac yn hybu technoleg ddigidol fel sector twf allweddol, gan gynnwys drwy wneud y canlynol:
- Sicrhau bod gan ein Hasiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd yr arbenigedd perthnasol sydd ei angen i roi cymorth wedi’i deilwra i fusnesau yn y sector – gan gynnwys helpu busnesau newydd i dyfu’n gynaliadwy a meithrin cysylltiadau arloesol rhwng prifysgolion, datblygwyr technoleg a busnesau yng Nghymru.
- Caffael mwy o wasanaethau digidol – gan gynnwys i gefnogi addysg ddigidol – yng Nghymru.
- Cyflenwi gweithwyr yng Nghymru â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fanteisio ar dwf ac arloesedd digidol, fel rhan o strategaeth sgiliau genedlaethol ehangach.
- Cefnogi datblygiad parhaus clwstwr lled-ddargludyddion y De a sicrhau’r manteision llawn o gampysau data ar gyfer cadwyni cyflenwi lleol, gwaith datblygu sgiliau, a chyfleoedd swyddi o ansawdd uchel.
- Annog y sectorau cyhoeddus a phreifat i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnolegau newydd mewn modd moesegol, arloesol, dan arweiniad gweithwyr, er mwyn gwella cynhyrchiant, cystadleurwydd a gwasanaethau, gan ddiogelu hawliau gweithwyr ar yr un pryd.
Byddwn yn comisiynu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i gynnal astudiaeth o seilwaith digidol ac i wneud argymhellion annibynnol ar sut dylid ei ddatblygu yn y tymor canolig i’r tymor hir er mwyn cefnogi datblygiadau digidol yng Nghymru a hybu cynlluniau tymor hir ar gyfer gwella cysylltedd digidol.