Bydd targedau clir yn cyd-fynd â’n gweledigaeth economaidd glir ac yn sail iddi, gan gynnwys ar gyfer y canlynol:
- Perchnogaeth busnesau yng Nghymru – gwneud yn siŵr bod mwy o’n heconomi dan berchnogaeth a rheolaeth Gymreig, a bod elw’n aros yng Nghymru.
- Swyddi a’r gweithlu – cadw golwg ar ansawdd a nifer y swyddi.
- Ymchwil ac arloesedd – cefnogi syniadau a thechnolegau newydd sy’n gwella cynhyrchiant.
- Cau’r bwlch rhwng rhanbarthau – gwneud yn siŵr bod pob rhan o Gymru yn elwa ar gynnydd economaidd.
Byddwn yn sefydlu Comisiwn Cyllidol ac Economaidd newydd i’n helpu i osod targedau, casglu a phrosesu data perthnasol, a mesur cynnydd.
Bydd hyn yn gwneud llywodraeth Plaid Cymru yn fwy atebol am ei phenderfyniadau economaidd ac yn helpu i sicrhau bod polisi economaidd wir yn gwneud yr hyn mae’n addo ei wneud, gan gynnwys cynyddu nifer y busnesau mewn dwylo Cymreig a chyfran yr elw sy’n cael ei chadw yng Nghymru, darparu gwaith teilwng a swyddi da, gwella llesiant a safonau byw, a lledaenu ffyniant i bob rhan o Gymru.