Cysylltu Cymru

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud Cymru’n genedl sydd wedi’i chysylltu’n well.

Mae cysylltiadau gwell rhwng pobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru yn hollbwysig er mwyn datgloi mwy o botensial economaidd Cymru. Yn y pen draw, mae gwella cysylltedd yn gwella safonau byw – gan ei gwneud yn haws i bobl gael mynediad at deulu a ffrindiau, addysg a hyfforddiant, gwaith ac apwyntiadau, a siopau a gwasanaethau.

Byddwn yn canolbwyntio ar greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig i Gymru sy’n cael ei redeg ar gyfer teithwyr, nid cyfranddalwyr, ac sy’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy – gydag amserlenni synhwyrol, prisiau tecach a thocynnau clyfar, ac yn sicrhau bod y rhwydwaith yn integreiddio rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yn llawn.

Gan ganolbwyntio’n glir ar hygyrchedd a diogelwch, byddwn yn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cludo teithwyr yn ddiogel ac yn ddibynadwy i ben eu taith.

Byddwn yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru (TrC) i sicrhau bod mwy o’i gyllid yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwell seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth ar y rheng flaen.

Ac fel rhan annatod o’n dull newydd o gynllunio strategol a gofodol, byddwn yn cyflwyno cynlluniau sy’n canolbwyntio mwy ar drafnidiaeth, gan wneud yn siŵr bod datblygiadau newydd yn cyd-fynd â rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.

I gefnogi hyn, byddwn yn gweithredu fframwaith newydd ar gyfer gwneud penderfyniadau ar seilwaith trafnidiaeth – un sy’n targedu adnoddau at bortffolio mwy dichonadwy a graddol o brosiectau. Bydd y fframwaith yn asesu costau cymharol a manteision economaidd cynlluniau arfaethedig, gan sicrhau triniaeth deg i bob rhan o Gymru, gwella canlyniadau amgylcheddol ac iechyd, a gwella perfformiad a dibynadwyedd ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth.

Bydd y fframwaith hwn yn berthnasol i’r holl seilwaith trafnidiaeth, gan gynnwys ffyrdd, a bydd yn sail i adolygiad o’r meini prawf presennol ar gyfer gwneud penderfyniadau ar ddatblygiadau ffyrdd yn y dyfodol.

Byddwn yn hybu diogelwch ar y ffyrdd ac yn sicrhau bod ein ffyrdd yn cael eu cynnal a’u cadw’n ddiogel. Hefyd, rydyn ni’n glir bod mawr angen adnewyddu’r broses o ddatblygu atebion i wella cadernid cysylltiadau trafnidiaeth ar draws y Fenai a mynd i’r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd.

Byddwn yn gwreiddio egwyddorion dylunio strydoedd cynhwysol mewn safonau a chanllawiau perthnasol ar gyfer dylunio a darparu seilwaith trafnidiaeth newydd.


Menter, Arloesedd a Chysylltedd: darllen mwy