Mae ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr i gyd yn cytuno nad oes gennym ddealltwriaeth glir ar hyn o bryd o ofynion sgiliau Cymru a pha fathau o gyrsiau neu hyfforddiant y dylid eu blaenoriaethu, gan ba ddarparwyr, ac ymhle, er mwyn cyflenwi pobl â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fanteisio ar gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg ym marchnad lafur Cymru.
Byddwn yn cynnal archwiliad cenedlaethol cynhwysfawr o sgiliau fel sail i strategaeth newydd i Gymru ar gyfer sgiliau, hyfforddiant a datblygu’r gweithlu.
Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth gliriach i ni o anghenion sgiliau yn y dyfodol, gan arwain y gwaith o ddatblygu cymwysterau galwedigaethol, a chynllunio ac ariannu rhaglenni hyfforddi – gan gynnwys prentisiaethau – fel bod y rhain i gyd yn gweddu’n well i ddyheadau dysgwyr ac i ofynion economi Cymru yn y dyfodol.
Byddwn yn sicrhau bod gan bob person ifanc yng Nghymru fynediad ystyrlon at gyfleoedd o ansawdd uchel ar gyfer addysg, hyfforddiant a chyflogaeth sy’n cyd-fynd â’i ddyheadau ac anghenion cyflogwyr Cymru.
I fynd i’r afael â natur dameidiog y system sgiliau bresennol a’i gwneud yn haws ac yn symlach i bobl gael gafael ar gyfleoedd addysg a hyfforddiant priodol, byddwn yn gwneud y canlynol:
- Gwella mynediad at gyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd, a chynyddu ymwybyddiaeth o’r ystod lawn o opsiynau ôl-16 sydd ar gael i ddysgwyr drwy’r chweched dosbarth a cholegau.
- Mynnu bod awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau yn cydweithio’n well i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu dewis y llwybr sgiliau sy’n gweddu orau.
- Gwreiddio cydweithio rhwng ysgolion, colegau a chyflogwyr i wneud yn siŵr bod mwy o gymwysterau galwedigaethol a chyfleoedd hyfforddi ar gael, a bod mwy yn manteisio arnynt.
Byddwn yn defnyddio ffrydiau ariannu presennol yn well, gan gynnwys ar gyfer Bargeinion Twf Dinesig a Rhanbarthol – sy’n tanberfformio ar hyn o bryd o ran cyflawni yn erbyn eu targedau sgiliau, hyfforddiant a swyddi – i gefnogi prentisiaethau’n well a darparu mwy o gyfleoedd, a gwell cyfleoedd, ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol a hyfforddiant seiliedig ar waith. Byddwn hefyd yn sicrhau bod Cronfa Twf Lleol Cymru yn cefnogi sgiliau a hyfforddiant yn effeithiol.