Arwain Cymru o'r Newydd

Mae Plaid Cymru yn barod i arwain, ac i achub ar y cyfle sydd gennym ni i adeiladu’r genedl.

Byddwn yn sefyll dros Gymru, ac yn cynnig dechrau newydd i’n pobl a’n cymunedau – gan ganolbwyntio ar sicrhau newid go iawn yn erbyn set glir o flaenoriaethau.

Rydyn ni’n addo llywodraeth newydd – gydag egni newydd, syniadau newydd a chred newydd yn yr hyn sy’n bosib i Gymru.

Bydd ein llywodraeth ni yn un radical a chyfrifol, ac yn cael ei harwain gan weledigaeth uchelgeisiol o Gymru sy’n hyderus ynddi’i hun a’i lle yn y byd.

Yn ogystal ag edrych at ddyfodol y tu hwnt i San Steffan, byddwn yn mynd ati heb ofn nac ymddiheuriad i sicrhau bod llais ein cenedl yn cael ei glywed yno.


Darllen mwy