Estyn allan at y Cymry byd-eang

Yn ôl yr amcangyfrifon, mae 3-4 miliwn o bobl o Gymru yn byw y tu allan i’r wlad.

Mae’r Cymry sydd ar wasgar yn ased – yn ffynhonnell creadigrwydd, sgiliau a buddsoddiad. Gydag arweinyddiaeth gadarn gan lywodraeth Plaid Cymru, bydd modd manteisio ar arbenigedd a phrofiad y gymuned Gymreig fyd-eang, a’i pharodrwydd i fuddsoddi, er mwyn sbarduno arloesedd a thwf yng Nghymru.

Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu Strategaeth Genedlaethol gynhwysfawr ar gyfer Cymry ar Wasgar, gan hyrwyddo Cymru fel lle i entrepreneuriaid ar wasgar fuddsoddi ynddo a sicrhau bod ymfudwyr diweddar yn cael eu hannog a’u cymell i ddychwelyd.

Bydd y strategaeth yn cynnwys:

  • Sefydlu Tasglu Cymry ar Wasgar traws-sector – gan ddod â busnesau, y byd academaidd, sefydliadau diwylliannol a’r llywodraeth at ei gilydd i gydlynu’r gwaith o estyn allan, rhannu’r arferion gorau, a gosod blaenoriaethau ar gyfer cydweithio â Chymry ar wasgar.
  • Fframweithiau buddsoddi strwythuredig – gan greu llwybrau clir a hygyrch i Gymry ym mhedwar ban byd fuddsoddi mewn busnesau, ymchwil a phrosiectau datblygu rhanbarthol yng Nghymru.
  • Ehangu adnoddau diwylliannol ac adnoddau’r Gymraeg – i ddarparu mwy o gyfleoedd digidol ac wyneb yn wyneb i ddysgu Cymraeg a mwynhau diwylliant Cymru.
  • Hyrwyddo rhaglenni dychwelyd a chyfnewid gwybodaeth – gan helpu ymfudwyr medrus i ddychwelyd i Gymru a hwyluso lleoliadau tymor byr ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd ar wasgar mewn sefydliadau, busnesau newydd a mentrau ymchwil yng Nghymru.
  • Datblygu rhwydweithiau ar-lein ac all-lein i gysylltu Cymry ledled y byd gyda’i gilydd a gyda chyfleoedd yng Nghymru, gan gynnwys gweithio gyda sefydliadau Cymry ar wasgar sefydledig i sicrhau’r canlyniadau gorau.

Arwain Cymru o'r Newydd: darllen mwy