Mae Ystad y Goron yn cynnwys asedau ar y môr a’r tir sy’n eiddo i’r brenin – gan gynnwys ar wely’r môr am hyd at 12 milltir forol – sy’n cynhyrchu incwm sylweddol o weithgareddau fel ynni adnewyddadwy ar y môr.
Yn yr Alban, mae rheolaeth dros Ystad y Goron wedi cael ei datganoli, gan alluogi Llywodraeth yr Alban i gadw’r elw llawn o brydlesu asedau Ystad y Goron a’i ailfuddsoddi mewn blaenoriaethau cenedlaethol.
Nid yw hynny’n wir yng Nghymru. Mae refeniw o dir a dyfroedd Cymru yn cael ei ddychwelyd i’r Trysorlys yn Llundain, gyda chyfran yn cael ei dyrannu i’r Teulu Brenhinol.
Does dim rheswm pam na ddylai pobl yng Nghymru elwa ar gyfoeth naturiol eu gwlad yn yr un modd â phobl yn yr Alban.
Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru o blaid datganoli Ystad y Goron. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn defnyddio ei mandad i sicrhau bod datganoli Ystad y Goron yn flaenoriaeth allweddol, gan ddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar unwaith.