Byddwn yn cael ein harwain gan ein blaenoriaethau ac yn gweithio i wneud yn siŵr bod bob punt o gyllideb Cymru yn cyfrif, ac i sicrhau bod gwariant cyhoeddus yn arwain at y canlyniadau gorau posib. Mae hyn yn golygu sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n effeithlon a’i ddefnyddio’n effeithiol i wella gwasanaethau cyhoeddus, yn hytrach nag i nodi problemau dro ar ôl tro sydd wedyn yn mynd heb eu datrys.
Yn ystod 100 diwrnod cyntaf llywodraeth Plaid Cymru, byddwn yn dechrau cysoni gwariant Llywodraeth Cymru â’n blaenoriaethau fel rhan o’r gwaith o baratoi ein cyllideb gyntaf.
Rydyn ni’n gwybod bod Cymru’n cael ei dal yn ôl oherwydd nad yw San Steffan yn ei hariannu’n ddigonol, a byddwn yn brwydro i sicrhau tegwch economaidd go iawn er mwyn gallu buddsoddi yn ein cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus.
Rydyn ni wedi ymrwymo i'r canlynol:
- Sicrhau bod Cymru’n cael yr hyn sy’n ddyledus iddi yn sgil HS2 a phrosiectau rheilffyrdd eraill sy’n rhai yn Lloegr yn unig, er mwyn i ni allu buddsoddi mewn system drafnidiaeth integredig sy’n gweithio i Gymru.
- Disodli fformiwla Barnett, sydd wedi dyddio ac sy’n annheg, gan sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o fuddsoddiad cyhoeddus.
- Mwy o bwerau treth, er mwyn i ni allu adeiladu system dreth sy’n gweithio i Gymru, gan gynnwys gallu gosod bandiau treth incwm i wneud y dreth yn fwy teg a blaengar. Byddai Treth ar Dir Gwag yn creu cymhelliant i greu defnydd preswyl a busnes newydd ar gyfer mwy o dir gwag.
- Rhagor o ddiwygiadau i’r fframwaith cyllidol, gan gynnwys codi terfynau tynnu i lawr blynyddol Cronfa Wrth Gefn Cymru i’r un lefel â’r Alban, a chynyddu terfyn dyled cyfalaf y Senedd o £1bn i £3bn – fel camau cyntaf uniongyrchol at sicrhau pwerau benthyca darbodus llawn i Gymru.
Byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o gyllido, gan gynnwys:
- Gweithio gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru – sy’n cyfuno cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol sydd, ers 2025, yn rheoli £25bn mewn asedau – i ddatblygu dull newydd o fuddsoddi’n foesegol ac yn lleol, gan gynnwys mewn tai cymdeithasol a busnesau yng Nghymru.
- Creu Cronfa Cyfoeth Cymru, gan sicrhau cyfran deg o elw o ynni adnewyddadwy Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned mewn meysydd fel tai ac ynni.