Rydyn ni’n gwybod ei bod yn hen bryd diwygio’r system Treth Gyngor bresennol, felly byddwn ni’n gweithio i’w gwneud yn decach. Byddwn hefyd yn edrych ar sut gellir diwygio’r Dreth Trafodiadau Tir i wella’r cymorth i’r rhai sy’n prynu eu tŷ cyntaf.
Byddwn yn diwygio ac yn ailgydbwyso ardrethi busnes i roi gwell cymorth i fusnesau lletygarwch, hamdden a manwerthu’r stryd fawr, sy’n rhan annatod o ganol trefi ffyniannus.
Byddwn yn sicrhau bod y defnydd gorau’n cael ei wneud o’r pwerau trethu presennol, gan roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddatganoli pwerau i gyflwyno Treth ar Dir Gwag ac i osod bandiau treth incwm sydd wedi’u gwneud yng Nghymru.