Dylai pawb yng Nghymru gael yr hawl i gartref diogel y gallan nhw ei fforddio. A dylen nhw allu cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus effeithiol mewn cymunedau bywiog a ffyniannus sydd â chysylltiadau da.
Fe wnawn ni’n siŵr bod yr hanfodion hyn yn eu lle.
Mae cartref cynnes, diogel a fforddiadwy yn hanfodol er mwyn cael bywyd iach a hapus. Ond i ormod o bobl yng Nghymru, mae hyn yn dal y tu hwnt i’w cyrraedd. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio i newid hyn.
Byddwn yn diogelu rhentwyr, yn adeiladu mwy o dai cymdeithasol, ac yn gwella ansawdd ac effeithlonrwydd ynni tai yng Nghymru.
Byddwn yn sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yn y sefyllfa gryfaf bosib i ddarparu’r gwasanaethau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnynt.
A byddwn yn diwygio’r system gynllunio er mwyn iddi wasanaethu ein pobl, ein cymunedau a’n busnesau’n well, a helpu i greu Cymru fwy cysylltiedig a ffyniannus.