Yr hawl i gartref digonol

Mae materion sy’n gorgyffwrdd – cyflenwad tai annigonol, a phrisiau tai a rhenti sy’n codi – i gyd wedi cyfrannu at yr argyfwng tai presennol yng Nghymru.

Er mwyn rhoi sylfaen gref i ymateb llywodraeth Plaid Cymru i’r argyfwng hwn, ac i sbarduno camau pellach, byddwn yn deddfu ar gyfer hawl i gartref digonol yng Nghymru.

Bydd polisi tai yn canolbwyntio ar fynd ati’n raddol i wireddu’r hawl hon, mynd i’r afael â digartrefedd, sicrhau bod costau tai yn adlewyrchu incwm lleol yn well, cefnogi perchnogaeth gymunedol, hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant, a helpu pobl ifanc i aros yn eu cymunedau.

Byddwn yn:

  • Sefydlu dull Tai yn Gyntaf o fynd i’r afael â digartrefedd, sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn ogystal â hyn, byddwn yn sicrhau bod deddfwriaeth digartrefedd newydd yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol a’i bod yn cael ei hadolygu’n gyson.
  • Blaenoriaethu ymyrraeth gynnar a rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau cyhoeddus penodol i adnabod unigolion sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, ac ymateb yn effeithiol.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i adolygu effeithiolrwydd y mesurau presennol ar ail gartrefi a llety gwyliau – gan gynnwys premiymau’r Dreth Gyngor, cyfarwyddyd Erthygl 4, a Chynllun Peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd Dwyfor – gan rannu’r arferion gorau a’r gwersi sy’n cael eu dysgu, ac asesu pa gamau pellach y mae angen eu cymryd.
  • Gweithio i fynd i’r afael â ffioedd sy’n blingo tenantiaid, neu ‘fleeceholds’ – lle mae perchnogion tai yn cael eu llethu gan ffioedd preifat afresymol am gynnal a chadw mannau cyffredin a mannau a rennir – gan sicrhau tryloywder wrth reoli ystadau a bod ffyrdd, mannau gwyrdd a seilwaith hanfodol arall yn eiddo cyhoeddus ac yn cael eu cynnal er budd y cyhoedd.
  • Cefnogi gwasanaethau sy’n darparu addasiadau i dai a gwelliannau i gartrefi, ac adeiladu ar hynny, er mwyn i bobl hŷn allu byw’n annibynnol ac yn ddiogel mewn cartrefi hygyrch.
  • Mynd ati i gyflymu’r gwaith o adfer eiddo sydd â chladin anniogel a diffygion eraill o ran diogelwch tân, gan gynnwys cryfhau goruchwyliaeth a gorfodaeth lle bo datblygwyr a rhydd-ddeiliaid yn peidio â chadw at amserlenni y cytunwyd arnynt.

Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio: darllen mwy