Cynllunio dan arweiniad y gymuned, a meithrin agwedd ‘gwnaed yng Nghymru’ tuag at ddatblygu rhanbarthol

Byddwn yn cyflwyno dull newydd o gynllunio’n strategol sy’n dod â thai, adfywio, cysylltedd a datblygu economaidd at ei gilydd mewn un weledigaeth gydlynol ar gyfer Cymru.

Byddwn yn diwygio prosesau cynllunio fel eu bod yn adlewyrchu anghenion lleol yn hytrach na buddiannau datblygwyr yn unig. Byddwn hefyd yn datglymu’r fframweithiau cenedlaethol a rhanbarthol sydd bellach yn we gymhleth ac aneffeithlon o flaenoriaethau anghyson ac olion traed daearyddol sy’n gorgyffwrdd.


Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio: darllen mwy