Parch. Undod. Chwarae teg. Mae’r gwerthoedd hyn wedi bod yn bwysig i bobl yng Nghymru erioed.
Byddwn yn eu defnyddio fel egwyddorion arweiniol y llywodraeth – gan siapio sut rydyn ni’n lleihau tlodi, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn adeiladu cymunedau sy’n fwy teg, diogel ac unedig.
Bydd camau ymarferol i fynd i’r afael ag anghyfiawnder tlodi plant a rhoi dechrau teg mewn bywyd i bob plentyn yn brif flaenoriaeth i lywodraeth Plaid Cymru.
Byddwn yn sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn gallu chwarae eu rhan yn ein cymuned o gymunedau – ac nad oes unrhyw un yn wynebu gwahaniaethu nac yn cael ei drin yn annheg.
A byddwn yn brwydro am y pwerau sydd eu hangen arnom i adeiladu system gyfiawnder sy’n gweithio i Gymru.